6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:38, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn wirioneddol ddinistriol. I ymateb i Janet Finch-Saunders, os oes 60 y cant o landlordiaid yn cadw eu rhenti ar gyfraddau y llynedd, golyga hynny nad yw 40 y cant ohonynt yn gwneud hynny, a dyna sy’n achosi ton o achosion o droi allan yn fy etholaeth. Dyn a ŵyr beth sy'n mynd i ddigwydd yn y gaeaf.