Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 27 Ebrill 2022.
Mae fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi nodi risgiau a chanlyniadau system cymorth tai sy’n methu. Ffactor arall sydd ar waith gyda chymorth tai a digartrefedd yw'r farchnad dai a'r cyflenwad tai. Gyda'r farchnad dai, mae rhentwyr ar waelod y domen, ac felly mae eu risg o ddigartrefedd yn cynyddu. Mae gofyn i ddarpar rentwyr fynd drwy un felin ar ôl y llall yn ddiddiwedd, sy'n gwbl groes i'r syniad o hawl i gartref. Mae landlordiaid yn gosod nifer sylweddol o ofynion sy'n aml yn waharddol cyn iddynt ganiatáu i ddarpar denant rentu eu heiddo, megis blaendaliadau a gwarantwyr, gofynion isafswm incwm, gwiriadau credyd helaeth, geirdaon a rhenti ymlaen llaw. Mae'r gofynion hyn yn rhwystr i lawer o rentwyr incwm isel, sydd, yn ei dro, yn lleihau'r gronfa o dai sydd ar gael. Roedd gan draean o'r eiddo a arolygwyd ofynion o'r fath. Pan fyddwch yn ystyried y 3.8 y cant sy'n cael eu cwmpasu gan lwfans yr awdurdod tai lleol ac yn ychwanegu’r gofynion hyn, dim ond oddeutu 2.1 y cant o eiddo sy'n cael ei gwmpasu gan lwfans awdurdodau tai lleol o ystyried y gofynion gormodol. Golyga hynny mai un o bob 50 eiddo y gallwch gael mynediad ato fel tenant incwm isel.
Yn ychwanegol at y problemau a wynebir gan rentwyr, ceir y rheini sy'n bodoli mewn tai amlfeddiannaeth. Gall materion sy'n ymwneud â darpariaeth tai waethygu heriau personol i unrhyw un, ond mae tystiolaeth uniongyrchol ac ymchwil ategol yn nodi bod nifer anghymesur o bobl ag anghenion lluosog a chymhleth yn byw mewn tai amlfeddiannaeth. Mae llawer o denantiaid yn nodi bod heriau iechyd meddwl wrth wraidd eu hanghenion, naill ai wedi’u gwaethygu neu wedi’u hachosi gan brofiadau bywyd niweidiol. Maent yn fwy tebygol o gael profiadau negyddol o ran tai, dryswch ynghylch taliadau, dyled i landlordiaid, a phryderon diogelwch yn ymwneud â gweithgarwch troseddol mewn tai amlfeddiannaeth yn fwyaf amlwg. Ychydig iawn o ddyletswydd gofal sydd gan landlordiaid a pherchnogion tai amlfeddiannaeth mewn perthynas â lles tenantiaid. Lle mae cymorth ar gael, yn aml caiff ei roi drwy rwydweithiau anffurfiol neu sefydliadau sector gwirfoddol.
Ceir cydnabyddiaeth ers tro fod amgylcheddau preswyl yn benderfynydd lles allweddol, gyda llenyddiaeth o ystod eang o ddisgyblaethau yn dangos tystiolaeth o gysylltiad rhwng tai a chanlyniadau iechyd. Yn ychwanegol at hynny, oherwydd y gwiriadau cyn-denantiaeth cosbol a wneir gan landlordiaid, mae’n debygol iawn fod hyn yn gwaethygu mater sydd eisoes yn gyffredin, sef tangofnodi salwch meddwl. Canfu Amser i Newid Cymru yn 2016 fod un o bob 10 o'r bobl a holwyd yn credu bod unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn llai dibynadwy na phobl heb broblemau o’r fath. Canfu arolwg barn yn 2010 gan YouGov, a gomisiynwyd hefyd gan Amser i Newid, na fyddai 66 y cant o’r bobl a arolygwyd yng Nghymru yn gosod ystafell mewn fflat a rennir i rywun â chyflwr iechyd meddwl. Ymddengys i mi fod angen inni ddatblygu naratifau cydymdeimladol a thosturiol i herio’r diwylliant o stigmateiddio. Mae rhai problemau strwythurol gwirioneddol i’w goresgyn. Ni all y math hwn o lety fod yn ateb parhaol i’r diffyg cyflenwad tai, ond mae’n ganlyniad amlwg. Ceir manteisiaeth a gorelwa, ond yn y pen draw, yr amodau a grëwyd yn bennaf gan bolisi Llywodraeth sydd wedi creu'r hinsawdd i hyn allu ffynnu.
Mae’r cyflenwad o unedau tai cymdeithasol newydd yn dal i fod is na'r hyn ydoedd yn y 1990au, y rhan fwyaf o’r 1980au ac yn sylweddol is nag ail ran y 1970au. Mae hyn yn adlewyrchu diffyg parodrwydd Llywodraethau olynol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd dros y cyfnod hwn. Mae 67,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai ledled Cymru ar hyn o bryd. Cam hanfodol i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru yw cynnydd aruthrol yn y cyflenwad tai, dan arweiniad y sector cyhoeddus, nid y sector preifat. Dylai tai a adeiledir yn gyhoeddus ddod yn opsiwn prif ffrwd ar gyfer pobl ar incwm cyfartalog, nid pobl ar incwm is yn unig. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld yr hyn y gall Unnos, y cwmni adeiladu cenedlaethol a sefydlwyd o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio, ei gyflawni. Rwy'n gobeithio y gall y buddsoddiad mewn rhaglen dai cyhoeddus sy’n cynhyrchu cartrefi gwyrddach o ansawdd gwell ein rhoi ar lwybr tuag at ddiwedd yr argyfwng tai, yn ogystal â lliniaru pwysau arall sy’n deillio o iechyd gwael, iechyd meddwl gwael a thlodi. Diolch yn fawr.