Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 27 Ebrill 2022.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cyllideb y taliadau disgresiwn at gostau tai i gefnogi’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y toriadau i fudd-daliadau. Ond eleni, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol doriad o oddeutu £2.3 miliwn yn y gyllideb honno, sef toriad o 27 y cant, o gymharu â’r llynedd, a hynny yn ychwanegol at doriad blaenorol o 18 y cant. Nawr, mae hwn yn ostyngiad enfawr mewn cyllid, a bydd yn gwaethygu sefyllfa'r rheini sydd eisoes yn ymdopi â'r argyfwng costau byw. Mae Julie James eisoes wedi galw ar Lywodraeth y DU i adfer cyllideb y taliadau disgresiwn at gostau tai yn llawn yn ei datganiad ysgrifenedig diweddar, ond nid oes unrhyw arwydd y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y galwadau hynny. Mae’r Gweinidog hefyd wedi pwysleisio nad yw cyfraddau'r lwfans tai lleol wedi codi mewn tair blynedd a hanner erbyn mis Mawrth 2023, ac felly nad ydynt yn ystyried rhai o’r codiadau sylweddol iawn yn lefelau rhenti mewn rhai ardaloedd—enghraifft glir iawn arall o ddiffyg cysylltiad Llywodraeth y DU a pha mor barod ydynt i eistedd yn ôl a gwylio’r argyfwng yn datblygu.
Nawr, roeddwn yn synnu wrth glywed Janet Finch-Saunders yn dweud iddi gael sioc wrth glywed am y bwlch rhwng y lwfans tai a lefel gymedrig y cyfraddau lleol. Ble mae hi wedi bod yn byw? Mae hyn wedi’i godi’n gyson gan sefydliadau anllywodraethol, ac yn wir, gan y Blaid Lafur drwy gydol y blynyddoedd o gyni a achoswyd gan y Llywodraeth Dorïaidd. Rhestrodd Jenny Rathbone yr hyn y bydd yn ei olygu’n ymarferol yn ei hetholaeth a’r dewis ffiaidd y mae’n ei gyflwyno i bobl sydd eisoes ar incwm isel. Ond mae Janet Finch-Saunders yn gwneud iddo swnio fel ffenomen annisgwyl, rhywbeth y mae hi newydd ddod ar ei draws. Mae'n fwriadol. Mae wedi bod yn un o nodau bwriadol polisi Llywodraeth y DU, fel y nododd Peredur Griffiths mor ofalus yn ei araith, ac mae’n ideolegol. Mae’n rhan o’u hagenda i bardduo’r tlawd a gwneud bwch dihangol o bobl sydd angen budd-daliadau. Nawr, rwy'n falch iawn fod Janet Finch-Saunders o'r diwedd wedi sylweddoli beth sy'n digwydd, ac yn wir, y bydd hi'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y bydd y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS yn darllen y llythyr â chryn ddiddordeb, ond peidiwch ag esgus, Janet, mai ffenomen ddamweiniol yw’r argyfwng tai sy'n gwaethygu, mae’n ganlyniad uniongyrchol i bolisi tai’r Torïaid.
Yng Nghymru, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn, gyda’r pwerau sydd gennym, i gyflawni ar ran y rheini sydd â’r angen mwyaf. Ym mis Ionawr, lansiwyd cynllun lesio Cymru, gwerth £30 miliwn dros bum mlynedd, i wella mynediad at dai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector rhentu preifat. Bydd yn rhoi sicrwydd i denantiaid a hyder i landlordiaid. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i gefnogi’r unigolion a’r aelwydydd mwyaf difreintiedig sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd tenantiaid y cynllun yn elwa ar ddiogelwch deiliadaeth mwy hirdymor o rhwng pump ac 20 mlynedd, ar renti wedi’u cyfyngu i gyfraddau'r lwfans tai lleol, a bydd cyllid ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael y lefel o gymorth y byddent yn ei disgwyl gyda thai cymdeithasol.
Gan droi yn gryno at ymgyrch End Youth Homelessness a gafodd sylw yn y cynnig, mae’r ymgyrch hon a Llywodraeth Cymru yn rhannu nod cyffredin—rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae’r nod hwn yn elfen ganolog ym mhob dim a wnawn i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd. Mae angen inni gael un strategaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd—bydd y fframwaith trosfwaol sydd ei angen i gyflawni’r nod hwn yn diwallu anghenion amrywiol pob grŵp. Yn ein cynllun gweithredu a’n dull strategol cyffredinol, mae angen tai sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc a chamau gweithredu ategol, yn ogystal â’r rheini sy’n canolbwyntio ar grwpiau eraill er mwyn sicrhau'r croestoriadedd hwn. Ar gyfer pobl ifanc yn benodol, rydym yn bwrw ymlaen â chyfres o fesurau'r Llywodraeth sy'n darparu ymateb cyfannol i drechu digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn wir, rydym eisoes yn ariannu llawer o’r prosiectau sy’n rhan o’r map ffordd pwysig hwnnw, gan gynnwys Tai yn Gyntaf i Ieuenctid, llety â chymorth, cyfryngu teuluol, cymorth tenantiaeth, fflatiau hyfforddi, Tai Ffres a Tŷ Pride, a phrosiectau cymorth tai LHDTC+. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried yr argymhellion a nodir yn y map ffordd, ac yn wir, fe wnaethom ystyried fersiwn gynharach ohono yn ein cynllun gweithredu. Ond ein ffocws parhaus yw rhoi'r argymhelliad ar gamau gweithredu ar ddigartrefedd ar waith gyda Phlaid Cymru i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau bod digartrefedd yn ddigwyddiad prin, nad yw'n para ac nad yw'n cael ei ailadrodd, fel y nodir yn y cytundeb cydweithio a’r rhaglen lywodraethu.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cydnabod yr argyfwng costau byw enfawr y mae cartrefi yng Nghymru yn ei wynebu, ac rydym yn gwneud, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn, gyda'r ysgogiadau sydd gennym, i gefnogi pobl drwy'r cyfnod heriol hwn.