Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei sylwadau ynglŷn â sefyllfa deuluol y Gweinidog, a byddaf yn eu trosglwyddo iddi?
Mae rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghymru, ac adlewyrchir hynny yn ein rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio. Mae’r ymateb brys i ddigartrefedd drwy gydol y pandemig, ac sy’n parhau heddiw, wedi bod yn aruthrol, fel y cydnabu Sioned Williams yn gwbl briodol. Ond rydym wedi dweud yn glir fod yn rhaid inni beidio â llithro'n ôl, ac ni fyddwn yn mynd yn ôl, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi ymrwymo i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd, ac adlewyrchir hyn yn ein cynllun gweithredu ar roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl o bob oed a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Mae hwnnw’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgais hirdymor, ac wrth ei wraidd, mae’r newid radical sydd ei angen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Yn sail i hyn, ceir ein targed uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.
Mae ein hymrwymiad i'w weld yn y buddsoddiad a wnawn: dros £197 miliwn mewn gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai yn y gyllideb derfynol eleni a £310 miliwn mewn tai cymdeithasol, sef y swm uchaf erioed. Ond nid ydym yn tanamcangyfrif maint yr her hon, a dyna pam ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym yng Nghymru i gyflawni ar gyfer y rheini sydd â'r angen mwyaf. Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol eisoes wedi sôn am yr ystod o fesurau a roddwyd ar waith gennym fel Llywodraeth i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Mae’r pecyn £380 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau treth gyngor A i D ac i bob aelwyd sy’n cael cymorth drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ym mhob un o fandiau'r dreth gyngor. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a roddodd daliad o £200 i aelwydydd cymwys i'w helpu i dalu biliau hanfodol dros y gaeaf. Mae hwn yn gymorth diriaethol, arian ym mhocedi pobl a fydd yn eu helpu gyda'u costau dydd i ddydd.
Ond yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r pwerau a’r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i helpu pobl gyda chostau cynyddol biliau ynni a chostau tai cynyddol, ac yn anffodus, mae ein galwadau arnynt i gymryd y camau y mae angen iddynt eu cymryd yn syrthio ar glustiau byddar. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at Lywodraeth y DU i alw arnynt unwaith eto i roi camau brys ar waith i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a chostau byw ehangach sy’n achosi cymaint o ofid a phryder i ddinasyddion Cymru. Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod rhenti wedi codi 1.6 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhenti eiddo sy'n cael ei osod o'r newydd a rhenti mewn ardaloedd penodol o Gymru yn codi’n gyflymach o lawer, ac mae hyn yn ddi-os yn rhoi pwysau pellach ar bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.