Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon yn y Siambr heddiw. Mae ansicrwydd ynghylch tai yn parhau i fod yn broblem allweddol sy’n wynebu trigolion ledled Cymru, fel y clywsom, ac yn enwedig ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, fy nghymuned i. Mae hyn, heb os, wedi’i waethygu gan argyfwng costau byw Llywodraeth Geidwadol y DU.
Mae’r adroddiad gan End Youth Homelessness Cymru yn datgan bod cartref sicr a diogel yn hollbwysig i blentyn, ac rwy'n cytuno na ddylem danamcangyfrif yr effeithiau y gall ansicrwydd tai eu cael ar ddyfodol plant yn ein cymunedau. Mae hyn yn sicr yn wir yn fy nghymuned i. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym y Wallich, sefydliad sy'n partneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynorthwyo gyda digartrefedd yn ein cymuned. Yn eu hadroddiad, mae'r Wallich yn dyfynnu Aaron, sy'n 18 oed, a ddywedodd,
'Mae'n anodd cyrraedd lle y dymunwch fod mewn bywyd pan fyddwch yn byw mewn hostel, ond byddai'n well gennyf fod [mewn hostel] nag ar y strydoedd'.
A dywedodd Lacey mai'r cyfan y mae hi ei eisiau yw lle i'w alw'n gartref diogel a hapus. Ymhellach, dangosodd yr adroddiadau gan End Youth Homelessness Cymru fod y ffactorau sy'n cyfrannu at ddigartrefedd yn deillio o wahaniaethu yn erbyn pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol a phobl LHDTC+, anfanteision y systemau y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu, a’r rheini sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, gyda dros draean y bobl sy'n gadael gofal yn wynebu digartrefedd yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl gadael gofal. Mae hyn yn annerbyniol. Rydym angen system a chymdeithas sy’n caniatáu i bob unigolyn ifanc ddewis eu llwybr eu hunain, ni waeth beth fo’u cefndir. Ni ddylai tlodi tai fod yn rhwystr byth. Dyna pam fy mod yn llwyr gefnogi gwarant Llywodraeth Cymru i bawb o dan 25 oed gael cynnig swydd, addysg, prentisiaeth neu gymorth i ddechrau busnes. Rwyf hefyd yn optimistaidd i weld sut y bydd y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol i bawb sy’n gadael gofal yn helpu i rymuso, ac rwy’n falch fod cynllun peilot ar gyfer hyn yn cael ei ystyried ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio y bydd angen cymorth cynhwysfawr a chyson ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan er mwyn iddynt allu ymdopi â newid a chyfleoedd yn eu bywydau.
Mae llawer o waith amhrisiadwy yn mynd rhagddo ledled Cymru. Adlewyrchir hyn yn ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar lawr gwlad yn ein cymunedau. Mae ein helusen leol ein hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cynllun mentora Bridge, a’u canolfan gymunedol, y Zone, yng nghanol y dref, yn achubiaeth fawr i gynifer o bobl a phobl ifanc sydd ar drothwy digartrefedd. Mae cael rhywle i droi a chael cynnig paned o de neu gyngor a chael eu cyfeirio yn hollbwysig i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Heb gynllun Bridge, efallai na fyddai gan lawer o bobl unman arall i droi.
Serch hynny, os ydym am weld diwedd ar ddigartrefedd, mae'n rhaid inni ddechrau drwy fynd i’r afael ag argyfwng costau byw Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae budd-daliadau wedi gostwng i'w lefel isaf ers 50 mlynedd; bydd tri chwarter yr aelwydydd yn waeth eu byd nag a oeddent flwyddyn yn ôl. Ar ôl blynyddoedd o doriadau, nid yw lwfans tai lleol Llywodraeth y DU yn adlewyrchu’r caledi ariannol a wynebir gan ein cymunedau. Gan mai tlodi yw prif achos digartrefedd ymhlith pobl ifanc, rwy’n ofni mai’r argyfwng hwn fydd y sbardun sy’n achosi i’n pobl ifanc a’n plant mwyaf agored i niwed ddod yn ddigartref. Mae'r rhwydweithiau cymorth yn gweithio hyd eithaf eu gallu. Mae ein cymunedau'n ymestyn eu breichiau mor llydan ag y gallant i amddiffyn ein pobl ifanc rhag digartrefedd, ond yn awr, mae angen i San Steffan hefyd ddarparu cymorth a rhyddhad teg a phriodol. Diolch.