– Senedd Cymru am 5:04 pm ar 27 Ebrill 2022.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y dadleuon heddiw, a bydd y bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 34 yn erbyn, felly gwrthodir y cynnig.
A symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar y gwelliant. Galwaf felly am bleidlais ar y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly derbynnir y gwelliant.
Symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7990 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID.
2. Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: 'Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr'.
3. Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
4. Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny.
5. Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd.
6. Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
7. Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi.
Agor y bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar yr argyfwng costau byw a thai. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, ac os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.
A dyna orffen y pleidleisio am heddiw.