1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Mai 2022.
Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau, ac Andrew R.T. Davies i ofyn ei rai ef.
Diolch, Llywydd. Ble mae Hefin David pan fydd ei angen arnoch chi, yn enwedig ar y ddau gwestiwn cyntaf?
Prif Weinidog, pa farn mae Llywodraeth Cymru wedi ei ffurfio yng ngoleuni'r dyfarniad llys diweddar ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal?
Llywydd, roedd achos yr Uchel Lys yn achos nad oedd yn ymwneud â Llywodraeth Cymru; roedd yn achos a ddygwyd yn erbyn awdurdodau yn Lloegr. Serch hynny, byddwn yn astudio'r dyfarniad yn ofalus ac yn ymateb iddo yn y dystiolaeth y byddwn yn ei chyflwyno i'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r profiad o'r coronafeirws ledled y Deyrnas Unedig.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi fabwysiadu'r un polisïau â Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, y cyfeiriodd dyfarniad y llys atyn nhw, ynghylch rhyddhau cleifion i gartrefi gofal heb gynnal profion. Fe wnaethoch chi ddweud, ar adeg y newid polisi yn Lloegr, na allech chi weld unrhyw werth mewn profi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal, ac, yn wir, dywedodd eich Gweinidog iechyd ar y pryd nad oedd yn deall y rhesymeg y tu ôl iddo. Yn syfrdanol, dywedodd yr un Gweinidog hefyd, pe bai'n cael cynnydd triphlyg i'r capasiti profi yma yng Nghymru, na fyddai'n profi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal o hyd. Cymerodd bythefnos gyfan o'r newid polisi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru ddal i fyny. Pam ddigwyddodd yr oedi cyn cynnal profion yma yng Nghymru, y mae'r llys bellach wedi dyfarnu ei fod yn anghyfreithlon?
I fod yn eglur, nid yw'r llys wedi canfod dim byd anghyfreithlon o ran Cymru, oherwydd nid oedd Cymru yn rhan o'r achos Uchel Lys hwnnw. Ni chymerodd unrhyw dystiolaeth o Gymru, ni edrychodd ar unrhyw ddogfennau yn ymwneud â Chymru, felly, gadewch i ni fod yn eglur ar gyfer y cofnod: pan fo'r Aelod yn dweud bod y polisi yn anghyfreithlon, yr hyn a ddarganfu'r llys oedd ei fod yn anghyfreithlon yn Lloegr, lle'r oedd ei blaid ef wrth y llyw. Ni wnaeth unrhyw sylwadau o gwbl am yr hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru.
Nid wyf i'n mynd i esgus y gallwn ni, mewn ateb ar lawr y Senedd, archwilio mater a gymerodd 75 tudalen o ddyfarniad Uchel Lys i'w archwilio. Ac fel y mae'r Aelod newydd gyfaddef, er mwyn gwneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru, mae angen i chi wneud synnwyr o'r cyd-destun ehangach hwnnw yn y DU. Byddwn yn ymateb, wrth gwrs, i'r materion hynny, y materion pwysig iawn hynny a oedd wrth wraidd achos yr Uchel Lys, ond byddwn yn gwneud hynny yn ein tystiolaeth i'r ymchwiliad, yr wyf i'n hyderus iawn y bydd yn archwilio'r mater hwn ynghyd ag amrywiaeth eang o faterion eraill sydd yn ei gylch gorchwyl pan fydd yn dechrau ar ei waith yn ddiweddarach eleni.
Prif Weinidog, gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ymateb i fy ail gwestiwn. Gofynnais i chi pam y cymerodd safbwynt polisi Llywodraeth Cymru bythefnos arall i newid i brofi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo i gartrefi gofal. Nodais hefyd, ar y pryd eich bod chi wedi dweud—eich bod chi wedi dweud—nad oedd unrhyw werth cynnal y profion hyn a bod eich Gweinidog iechyd—unwaith eto, ei eiriau ef—wedi dweud, pe bai cyfanswm y capasiti profi yn cael ei dreblu na allai weld y rheswm o hyd am brofi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal. Dyna wnes i ei ofyn i chi, Prif Weinidog. Ni wnaethoch chi gynnig unrhyw amddiffyniad o gwbl i fy nghwestiwn i chi. Dyna pam mae angen ymchwiliad annibynnol arnom ni yma yng Nghymru sy'n edrych ar safbwynt polisi Cymru. Rydym ni'n gwybod fel ffaith, fel yr wyf i wedi ei amlinellu yma, fod gwahaniaeth amlwg yn y polisi yr ydych chi wedi ei ddilyn yma yng Nghymru ar y mater hwn a llawer o faterion eraill. Mae'n ffaith, yn anffodus, mai gennym ni y mae'r gyfradd farwolaethau uchaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig; mae'n ffaith yr anfonwyd llythyrau anghywir i lawer o bobl a oedd yn gwarchod; ac mae'n ffaith bod eich safbwynt polisi chi wedi rhoi mwy o gleifion mewn perygl oherwydd na wnaethoch chi gyflwyno profion y canfuwyd ers hynny eu bod yn rheidrwydd ar y pryd. A yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi'n rhwystro'r ymchwiliad hwn rhag digwydd yma yng Nghymru oherwydd bod ofn craffu arnoch, neu ddim ond trahauster bod eich safbwynt chi yn iawn ac na ddylai ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru graffu arno? Oherwydd rwy'n methu â gweld pam rydych chi'n dal i wrthwynebu yn gadarn ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru a fyddai'n edrych ar y safbwyntiau polisi hyn a fabwysiadwyd gan eich Llywodraeth, ac a amlygodd cleifion yma yng Nghymru i fwy o risgiau yn y pen draw.
Wel, Llywydd, ni allai'r Aelod fod yn fwy anghywir. Atebodd ei gwestiwn ei hun yn ei gyfres gyntaf o sylwadau: ni fyddai ymchwiliad annibynnol a oedd yn canolbwyntio ar Gymru yn unig byth yn gallu gwneud synnwyr o'r union fathau o benderfyniadau y mae wedi cyfeirio atyn nhw. Pe bai wedi bod yn dilyn yr hyn a ddywedodd yr Uchel Lys mewn gwirionedd, byddai wedi gweld bod yr Uchel Lys wedi cyfeirio at y cyngor a oedd ar gael i Lywodraeth y DU, sef yr un cyngor a oedd ar gael i'r Llywodraeth yma yng Nghymru. Ni allwch chi ddeall y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru drwy ysgaru'r penderfyniadau hynny o gyd-destun y DU, cyngor y DU, lefel ddealltwriaeth y DU ar y pryd, a'r ffordd yr oedd hynny ar gael yma yng Nghymru. Dyna pam yr wyf i wedi dadlau erioed mai'r ffordd orau y gall pobl gael atebion i'r cwestiynau y maen nhw'n gwbl briodol eisiau eu gweld yn cael eu harchwilio, a bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad annibynnol dan arweiniad y Barnwr Hallett yn y ffordd fwyaf agored y gallwn. Byddwn yn darparu'r holl ddogfennau sydd gennym ni; byddwn yn darparu'r holl dystiolaeth a oedd ar gael i ni, a byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd na fwriedir iddi amddiffyn y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw fater. Rwyf i eisoes wedi cyfarwyddo'r bobl hynny sy'n helpu i baratoi tystiolaeth Llywodraeth Cymru bod y dull yr wyf i eisiau i ni ei fabwysiadu yn un lle byddwn ni'n esbonio pam wnaethom ni'r penderfyniadau a wnaethom ac yna ei adael i'r ymchwiliad benderfynu a oedd modd amddiffyn y penderfyniadau hynny. Nid wyf i am fynd i ymchwiliad gan geisio cyfiawnhau neu amddiffyn—termau a ddefnyddiodd yr Aelod oedden nhw; nid dyna'r termau y byddaf i'n eu defnyddio. Byddwn yn mynd yno i egluro a byddwn yn darparu'r holl dystiolaeth a allwn o pam wnaethom ni'r penderfyniadau a wnaethom, ac yna mater i'r ymchwiliad, nid i Lywodraeth Cymru, ac os caf i ddweud hynny, nid i arweinydd yr wrthblaid ychwaith, fydd penderfynu a oedd modd amddiffyn y penderfyniadau hynny ai peidio yng nghyd-destun yr adeg y cawson nhw eu gwneud.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Fe wnaeth yr Uchel Lys, yn ei benderfyniad, y pwynt cyffredinol, onid wnaeth? Daeth i'r casgliad cyffredinol, o gofio'r ddealltwriaeth gynyddol bod trosglwyddo asymptomatig yn bosibilrwydd gwirioneddol, y dylid bod wedi newid y dull o ryddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal ac, yn benodol, y dylai cleifion asymptomatig fod wedi eu cadw ar wahân i breswylwyr eraill am 14 diwrnod. Y cyngor hwnnw, sef yr unig safbwynt cyfreithlon yn ôl yr Uchel Lys, a gafodd y cyngor hwnnw, a gafodd y polisi hwnnw ei ymgorffori yma yng Nghymru yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill? A roddwyd y cyngor hwnnw i gartrefi gofal?
Wel, unwaith eto i fod yn gwbl eglur gydag arweinydd Plaid Cymru, nid yw hwnnw yn sylw y mae'r Uchel Lys wedi ei wneud wrth glywed unrhyw beth o gwbl am benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Gall yr Aelod geisio os hoffai geisio awgrymu hynny oherwydd iddo wneud sylw cyffredinol y mae'n rhaid iddo, rywsut, fod yn berthnasol yma yng Nghymru. Nid wyf i'n credu bod ganddo hawl i wneud hynny. Gwrandawiad am ddau achos yn Lloegr oedd hwn. Ni chymerodd yr un gair o dystiolaeth am yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru. Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei ofyn yn ymwneud â throsglwyddiad asymptomatig. Rwy'n credu y bydd angen i'r ymchwiliad archwilio'r pwynt pan ddaeth yn amlwg bod y coronafeirws yn glefyd y gallai unigolion asymptomatig ei ledaenu; pryd y gwnaeth y cyngor hwnnw ddod i'r amlwg a dod yn hysbys i Lywodraethau; ac ar yr adeg y daeth i'r amlwg, beth fyddai canlyniadau polisi hynny. Maen nhw yn gwestiynau cwbl briodol—nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny—a bydd yr ymchwiliad yn dymuno mynd i'r afael â nhw.
Wel, gall yr Uchel Lys ein helpu ni yn y ffordd honno, oni all? Gan ei fod mewn gwirionedd yn ymchwilio i'r union gwestiwn yr ydych chi newydd ei godi, Prif Weinidog. Dyma mae'n ei ddweud:
'nid oedd unrhyw brawf gwyddonol yng nghanol mis Mawrth 2020 bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd, ond cydnabuwyd yn eang gan yr arbenigwyr fod trosglwyddiad o'r fath yn bosibl.'
'Roedd ymrwymiad ar Weinidogion', maen nhw'n mynd ymlaen i'w ddweud, barnwyr yr Uchel Lys,
'i bwyso a mesur nid yn unig y tebygolrwydd bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd, ond hefyd y canlyniadau difrifol iawn pe bai yn digwydd.'
Yr union bwyntiau a oedd yn cael eu gwneud yma yng Nghymru hefyd. Nid oedd gwyddoniaeth trosglwyddiad asymptomatig yn wahanol, onid oedd, yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Roedd lefel yr wybodaeth yn ystod y cyfnod yr oedd yr Uchel Lys yn cyfeirio ato yr un fath yma, ac roedd canlyniadau gwneud pethau'n anghywir—y canlyniadau angheuol, rwy'n drist o ddweud, o'i gael yn anghywir—yn union yr un fath. Felly, onid ydych chi'n derbyn, yn seiliedig ar y dyfarniad a gyflwynwyd gan yr Uchel Lys, fod y methiant i gydnabod y posibilrwydd o drosglwyddiad asymptomatig wedi arwain at ganlyniadau angheuol dros ben yma yng Nghymru? A byddai'n dda cael ateb gonest i hynny nawr gan y Prif Weinidog, o gofio cryfder y teimladau sy'n bodoli ymhlith y cyhoedd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth.
Wel, Llywydd, rwy'n ceisio rhoi ateb gonest bob tro y byddaf i'n siarad wrth y blwch traddodi hwn. Nid yw hynny'n golygu y byddaf i'n rhoi ateb yr hoffai'r Aelod i mi ei roi. Nid yw hynny'n brawf o onestrwydd. Ni ddylai awgrymu ei fod. Dywedodd eiliad yn ôl fod yr Uchel Lys wedi canfod, ar yr adeg pan oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud, nad oedd sicrwydd gwyddonol bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl gydnabod am eiliad yr oeddem ni, ar yr adeg hon yn hanes deall y clefyd hwn, yn dysgu, roedd pawb yn dysgu pethau newydd amdano bob un dydd.
Rwy'n cytuno â'r pwynt y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei wneud na allwch chi wahanu'r ddealltwriaeth yng Nghymru oddi wrth y ddealltwriaeth ledled y Deyrnas Unedig gyfan, gan fod y cyngor yr oeddem ni'n dibynnu arno yn gyngor a ddaeth, yn aml iawn, o lefel y DU honno. Dyna pam mae'r gred gyson y gallai ymchwiliad i Gymru yn unig roi atebion i chi mor anghywir, gan na fyddai'n gallu archwilio'r union fater hwnnw, gan na fyddai'r un o'r bobl hynny o gwmpas y bwrdd yn gallu rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Cymru yn unig.
Nid wyf i'n credu y bydd o fudd i unrhyw un i'r Siambr weithredu fel pe bai'n gomisiwn ymchwiliad. Nid ydym. Mae'r comisiwn ymchwiliad yn annibynnol ar y Senedd hon, ac mae hefyd yn annibynnol ar y Llywodraeth yma. Mae'r materion hyn, sy'n faterion cwbl briodol, yn haeddu cael eu clywed yn y manylder y byddai eu hangen arnyn nhw, gyda'r archwiliad fforensig y bydd yr ymchwiliad yn ei ddarparu. Yna cawn weld a oedd modd amddiffyn y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, yn y sefyllfa o ran gwybodaeth ar y pryd, gyda'r dystiolaeth a'r cyngor a oedd ar gael i ni, ai peidio.
Rydych chi'n cyfeirio at y dadansoddiad cynhwysfawr a'r dystiolaeth a aeth i mewn i'r un cwestiwn hwn o ran Lloegr; a allwch chi addo y bydd y teuluoedd hynny sydd wedi dioddef profedigaeth yn cael yr un lefel o ddadansoddiad fforensig a chynhwysfawr ag y mae'r teuluoedd yn Lloegr wedi ei chael drwy'r Uchel Lys o ran y cwestiwn penodol hwn? A fydd cylch gorchwyl ymchwiliad y DU yn cynnwys ateb y cwestiwn a oedd y polisi o ran rhyddhau cleifion i gartrefi gofal yng Nghymru yn gyfreithlon? Neu, os na fydd, ai'r unig opsiwn sydd ar gael i'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yw bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn y llwybr cyfreithiol hefyd, i gael y math o sicrwydd sydd bellach wedi ei gyflwyno gan yr Uchel Lys mewn cysylltiad â Lloegr? Fel yr wyf i'n deall eich safbwynt, nid ydych chi'n derbyn ei fod yn berthnasol i Gymru. A allwn ni fod yn siŵr y byddwn ni'n cael yr un lefel o bwyslais ar y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru gydag ymchwiliad y DU? A fydd y teuluoedd yn cael y sicrwydd drwy'r broses honno?
Rwy'n credu ei bod hi'n iawn ac yn briodol, ac yn anochel yn wir, y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn wir yn canolbwyntio ar y mater hwn ochr yn ochr â chyfres o faterion eraill y mae teuluoedd wedi eu codi. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rwyf i wedi cyfarfod fy hun â chynrychiolwyr teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yma yng Nghymru. Ymrwymais bryd hynny i ysgrifennu ar eu rhan, yn yr ymateb yr ydym ni wedi ei roi i'r rownd ddiweddaraf o ymgynghoriadau ar y cylch gorchwyl, gan ofyn a ellid codi rhai materion penodol a oedd, rwy'n credu, yn ymhlyg yn y cylch gorchwyl, i'w gwneud yn eglur ar wyneb y cylch gorchwyl hwnnw. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y mater hwn. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, yr oedd yn fater o ddiddordeb ac ymchwiliad cyhoeddus sylweddol o'r cychwyn, a mater i'r barnwr, rwy'n credu, yn y pen draw—. Mae'n rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â thresmasu ar bethau y gellid ei ystyried fel ei fod yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'i hannibyniaeth, ond mae'n ymddangos yn amhosibl i mi na fydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar hyn, gyda lefel o fanylder fforensig yr wyf i'n credu y bydd y pwnc yn ei haeddu.