1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Mai 2022.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth 5G yng Nghymru? OQ57951
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am delathrebu. Yn ôl Ofcom, mae darpariaeth awyr agored 5G gan o leiaf un gweithredwr ar hyn o bryd yn cynnwys mwy na 23 y cant o eiddo yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog. Mae cysylltedd 5G yn elfen ganolog o'r Llywodraeth hon yn cyflawni ei huchelgeisiau i gael 30 y cant o weithlu Cymru yn gweithio gartref. Hefyd, mae llawer o'ch polisïau—er enghraifft, lleihau traffig i helpu i wella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon deuocsid ar y ffyrdd, a gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ehangu'r defnydd o dechnoleg ar gyfer datblygiadau arloesol fel ffermio clyfar—yn dibynnu cymaint ar gysylltedd 5G. Mae ein heconomi, ac yn enwedig ein heconomi wledig, wedi dioddef cymaint yn sgil y pandemig, ac mae bellach yn ras yn erbyn amser i osod 5G ledled Cymru. Fel yr wyf i'n siŵr y mae'r Prif Weinidog yn gwybod, datgelodd adolygiad marchnad agored band eang 2021, er gwaethaf y gweithrediad presennol ledled Cymru, ymhen tair blynedd, bydd bron i 118,000 o eiddo yn dal i fod heb ddefnydd o fand eang â gallu'r genhedlaeth nesaf, a bydd 118,000 o eiddo eraill yn dal i gael eu hadolygu. O ran band eang â gallu gigabit ymhen tair blynedd, bydd bron i 330,000 o eiddo yn dal i fod heb fynediad, a bydd 660,000 o eiddo eraill yn cael eu hadolygu. Mae'r cyfnod cymharol hir hwn yn sicr yn effeithio ar fusnesau newydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn lleihau mantais gystadleuol Cymru o ran denu busnes newydd. Er bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU o dan Brosiect Gigabit i gefnogi uwchraddio i 5G, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, y ffactor sy'n cyfyngu bellach yw gallu Llywodraeth Cymru i gaffael gan gwmnïau technoleg—
Rwy'n credu y bydd angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr, Joel James.
—i osod ac uwchraddio rhwydweithiau. Prif Weinidog, pa sgyrsiau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda diwydiant i wella effeithlonrwydd y broses o gyflwyno 5G, a pha asesiad effaith y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gwneud o effeithiau negyddol hirdymor cynifer o eiddo yn methu â chael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf a band eang â gallu gigabit? Diolch.
Rwyf i yn gobeithio y bydd yr Aelod yn dod o hyd i amser i roi'r hyn y mae newydd ei ddweud wrthym ni mewn llythyr y gall ei anfon at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y materion hyn, sy'n Weinidog yn Whitehall, nid yng Nghymru. Fel y ceisiais egluro mor syml ag y gallwn yn fy ateb gwreiddiol, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y materion hyn. Nid yw'n fater sydd wedi ei ddatganoli i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu rhai cyfleusterau prawf i wirio sut y gall technolegau 5G ddatblygu, er enghraifft, mewn lleoliadau gwledig. Roedd ein rhaglen Datgloi 5G Cymru yn canolbwyntio ar Raglan yn etholaeth Sir Fynwy ac yn ardaloedd y Cymoedd hefyd, lle'r oedd yr un rhaglen honno yn gallu profi'r ffordd orau o ddefnyddio technoleg 5G yng Nglynebwy fel prawf ar gyfer cymunedau'r Cymoedd.
Dyna'r swyddogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chyflawni. Gallwn helpu i wneud yn siŵr bod y dechnoleg yn cael ei dyrannu orau yng Nghymru, ond Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddyrannu'r dechnoleg. Eu cyfrifoldeb nhw ydyw. Nid wyf i'n gweld bod gan yr Aelod bwynt arbennig o berthnasol i'w wneud wrth ofyn beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Fe wnaf ei atgoffa ei fod wedi sefyll ar sail maniffesto flwyddyn yn ôl a oedd yn dweud y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cael gwared ar unrhyw wariant gan Lywodraeth Cymru ar gyfrifoldebau nad oedden nhw wedi eu datganoli, a fyddai'n golygu na fyddai unrhyw wariant o unrhyw fath ar faterion 5G nac unrhyw faterion band eang eraill. Yn ffodus, ni wnaethom ni ddilyn y cyngor hwnnw ac ni wnaeth poblogaeth Cymru chwaith.
Mae Ofcom yn dweud wrthym fod y broses o gyflwyno technoleg 5G yn mynd yn dda yng Nghymru a bod hynny yn arbennig o wir ar hyn o bryd am y llain drefol o amgylch arfordir y de. Mae'n mynd yn dda yn bennaf yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Rwy'n gobeithio, am y rhesymau a nodwyd gan yr Aelod, ei bod yn parhau i fynd yn dda, oherwydd, fel y dywedodd, mae'n galluogi cyfres o amcanion polisi pwysig iawn i gael eu dilyn yma yng Nghymru. Ond mae'r cyfrifoldeb yn eglur iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd, i'r un graddau helaeth ag y cyflwynodd ei bwyntiau i ni, yn eu gwneud i'r Gweinidogion sy'n gyfrifol amdanyn nhw mewn gwirionedd.
Prif Weinidog, rwy'n deall nad yw band eang yn fater sydd wedi ei ddatganoli ac, yn anffodus, nad yw gogledd Cymru wedi cael dim o'r £5 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei neilltuo ar gyfer cyllid seilwaith band eang. Rwy'n deall y gallai fod yn ddwy flynedd arall. Fodd bynnag, rwyf wedi cyffroi ac yn falch o glywed bod consortiwm, yn Ynys Môn, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor a'r sector preifat, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a bod ganddo raglen dreialu i ategu a chynyddu rhwydwaith digidol presennol Llywodraeth Cymru i alluogi cyflwyniad cyflym o seilwaith 5G. Bydd hyn yn targedu ardaloedd gwledig yn bennaf, gan ddefnyddio arloesedd a thechnoleg bresennol Prifysgol Bangor, drwy eu canolfan prosesu signalau digidol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn sylweddoli ansawdd y fenter leol hon ac yn cefnogi'n ariannol y seilwaith band eang gwledig y mae taer angen amdano ar gyfer y gogledd, ac yn rhoi rhywfaint o'r £5 biliwn hwnnw a neilltuwyd i'r gogledd?
Mae hwnna yn bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud ar ran y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli yma yn y Senedd. Fel y mae'n digwydd, cefais gyfle i drafod y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan y ganolfan Prosesu Signalau Digidol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Mae'n gynnig sy'n arloesol, o ran y gronfa y gwnaed y cais ar ei chyfer. Mae'n gronfa sydd â'r nod pennaf o gynyddu nifer yr aelwydydd sydd â mynediad at fand eang. Mae hwn yn gynnig sy'n cyfuno gwaith ymchwil i'r defnydd gorau o dechnolegau 5G, a hefyd, drwy'r gwaith ymchwil hwnnw, yn ymestyn nifer yr aelwydydd sydd â mynediad atyn nhw. Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n trafod gyda'r ganolfan, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi adborth i'r ganolfan ar y cynigion cyn gynted â phosibl, ac yn sicr erbyn i ni dorri ar gyfer yr haf.