Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 3 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad, Weinidog. Mae agwedd Llywodraeth San Steffan tuag at y sefyllfa erchyll yn Wcráin yn gwbl baradocsaidd. Ar yr un llaw, mae pobl Cymru a Phrydain yn unedig yn eu solidariaeth â phobl Wcráin, ac yn unedig yn eu dicter tuag at Putin ynghyd â'i ryfel anghyfreithlon a'i droseddau rhyfel anwaraidd. Ac mae Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn rhannu'r teimladau cryfion hyn. Yn wir, fel y clywsom ni, bu Boris Johnson heddiw yn annerch Senedd Wcráin.
Ond er mor bwysig yw areithiau cefnogol a geiriau cynnes, mae gweithredoedd yn bwysicach, ac mae Llywodraeth Boris Johnson yn methu pobl Wcráin ac yn tanseilio ymdrechion Cymru i fod yn genedl noddfa. Y weithred fwyaf effeithiol y gallai Llywodraeth San Steffan ei gwneud i helpu pobl Wcráin yw nid mynd a datgan araith, ond sicrhau bod modd diogel a chyflym iddyn nhw ddod i Gymru ac i Brydain. Mae nifer o'r bobl hyn wedi colli anwyliaid, yn dioddef o drawma o ganlyniad i farbariaeth rhyfel. Yr hyn maen nhw angen yw cariad, cartref a chyfle, a'n cefnogaeth a'n cymorth ni iddyn nhw fedru cael y pethau hynny.
O wrando ar rethreg Boris Johnson a'i Lywodraeth, byddai rhywun yn meddwl taw dyma'n union yr ydym yn ei gynnig i ffoaduriaid Wcráin, ond dro ar ôl tro ym myd gwleidyddiaeth, gwelwn fod gagendor yn bodoli rhwng rhethreg gynnes y rhai sydd mewn grym â'u gweithredoedd llugoer. Ac mae ymateb Llywodraeth San Steffan i'r sefyllfa yn Wcráin, yn anffodus, yn enghraifft berffaith o hyn. Mae Llywodraeth San Steffan, er gwaethaf eu geiriau twym, yn gadael pobl Wcráin lawr. Mae llysgennad Wcráin i'r Deyrnas Gyfunol wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i weithredu ar frys i wella'r broses fisa, sydd, yn ei eiriau fe, yn ddiangen o hir a biwrocrataidd, gan adael miloedd o bobl yn ddiymadferth ar hyd a lled gwledydd tir mawr Ewrop.
Ac mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi clywed am rwystredigaeth y teuluoedd sy'n cyrraedd yma ar y cynllun teuluoedd yn hytrach nag ar gynllun Cartrefi i Wcráin, a bod y Cymry sy'n cynnig lloches iddyn nhw yn anghymwys i dderbyn y taliad o £350. Mae hyn yn anghyfiawnder cwbl sylfaenol, ac yn enghraifft o'r Swyddfa Gartref yn trosglwyddo eu cyfrifoldebau moesol i'r cyhoedd, â nifer o'r ffoaduriaid yn wynebu heriau, fel clywsom ni, o ran diffyg cefnogaeth a gwybodaeth, diffyg gwersi iaith, a'r ffaith bod cofrestru ar gyfer ysgol a meddyg teulu yn absẃrd o gymhleth.
Sut mae Llywodraeth Cymru am oresgyn yr anghysonderau hyn, yn wyneb difaterwch a blerwch anhrefnus Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol? Mae 2,300 o fisas wedi eu cyhoeddi yng Nghymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Ac fel y gwnaethoch chi sôn, o'r rhain, 670 wedi'u huwch-noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Alban wedi cael 5,200 o fisas wedi eu cyhoeddi, gyda 3,000 ohonynt wedi'u huwch-noddi gan Lywodraeth yr Alban. Mae'r bwlch yma rhwng y ddwy wlad yn eithaf sylweddol. Felly, a all y Gweinidog egluro'r rheswm dros yr anghysondeb hwn rhwng Cymru a'r Alban? Ydy'r Gweinidog yn ffyddiog nad oes unrhyw ffactor y tu hwnt i hap a damwain yn gyfrifol am hyn?
Mae'n debygol y bydd ffoaduriaid sy'n cyrraedd yma, yn enwedig menywod a phlant sy'n agored i niwed, eisoes wedi dioddef trawma. Ac felly, fel y gwnaethoch chi sôn, ac fel y gwnaeth Mark Isherwood sôn, mae sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael gofal pan fyddant yn cyrraedd yn hollbwysig, ac rwy'n croesawu yr hyn yr ydych wedi sôn amdano fo o ran sut rŷch chi'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Ond mae nifer o fudiadau ffoaduriaid a gwrth-fasnachu pobl wedi ysgrifennu at Michael Gove i fynegi eu pryderon dwys ynghylch diogelu, a'r cynllun, gyda masnachwyr pobl eisoes yn targedu pobl, menywod a phlant o Wcráin.
Dyma sefyllfa cwbl dorcalonnus, sy'n cyferbynnu'n llwyr gyda rhethreg Llywodraeth Prydain. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylem neu y gallem gael cynllun cwbl ddyngarol, sy'n croesawu ffoaduriaid, ac sy'n eu diogelu'n llwyr rhag camdriniaeth.
Doedd e ddim yn swnio i fi fel bod y Gweinidog yn hollol fodlon bod y gwiriadau hyfforddiant a chymorth proffesiynol sydd ar waith ar hyn o bryd ynghylch y cynllun yma yng Nghymru yn ddigonol i sicrhau diogelwch i ffoaduriaid Wcráin. Felly, beth mwy y gellir ei wneud? Diolch.