Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 3 Mai 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r heriau sydd wedi dod i ran ein cymuned addysg ni yn sgil y pandemig. Un o'r rhain yw'r cynnydd yn absenoldeb dysgwyr, a hynny ymhob grŵp blwyddyn ac ymhlith dysgwyr o bob math. Rydyn ni'n gwybod bod yna resymau amrywiol dros yr absenoldeb yma, a bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn un o'r prif elfennau sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad o batrymau absenoldeb, adolygiad y gwnes i ei gomisiynu ddiwedd 2021.
Er mwyn ymateb i'r her gynyddol yma, bydd angen inni edrych ar y system yn ei chyfanrwydd. Heddiw, fe fyddaf i'n datgelu nifer o gamau y byddwn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned addysg i gefnogi ei dysgwyr.
Mae yna gysylltiad sydd wedi'i hen sefydlu rhwng presenoldeb, cyrhaeddiad a lles. Fy mlaenoriaeth i, uwchlaw dim arall, yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial, beth bynnag ei gefndir. Mae mynd i'r afael gydag absenoldeb yn allweddol i hyn. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd 10.5 y cant o ddisgyblion uwchradd a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn absennol, o gymharu â 4.7 y cant o'r rheini nad oedden nhw'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae'r ffigurau hyn yn drawiadol ac yn galw am ymateb cenedlaethol.
Mae'r lefelau uchel o absenoldeb wedi bod yn dueddiad ar draws y Deyrnas Unedig, ond rhaid inni fod yn ofalus wrth gymharu. Mae ffigurau Lloegr yn seiliedig ar arolwg o ysgolion gyda dim ond 50 y cant i 60 y cant ohonyn nhw wedi ymateb; mae Cymru yn aml yn llwyddo i sicrhau bod bron i 100 y cant o'r ysgolion yn ymateb.
Hefyd, ar gyfer y rhan fwyaf o’r pandemig, mae ein data ni wedi mesur 'ddim yn bresennol'. Felly, mae pob disgybl wedi'i gyfrif yn absennol, hyd yn oed os oedden nhw'n dysgu gartref. Rhesymau diogelu sy'n gyfrifol am hyn. Felly, nid yw bod yn absennol o'r ysgol yr un fath â bod yn absennol o'r dysgu.
Yn gyntaf, fe hoffwn i sôn am gynnydd yn ein cyfathrebu gyda theuluoedd ar lefel genedlaethol ynghylch pa mor bwysig yw hi fod eu plentyn yn mynychu'r ysgol. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel o anodd i lawer o deuluoedd, ac mae'n ddealladwy pam mae hyn wedi creu pryder i gymaint. Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o'r pryderon hyn, ond mae'r cydbwysedd rhwng gwahanol ffactorau niweidiol yn glir bellach.
Mae angen i bobl ifanc fynychu'r ysgol, gweld eu ffrindiau a dysgu yn y dosbarth. Mae hyn yn hanfodol o ran eu lles, yn ogystal â'u haddysg. Fe fyddwn ni felly'n cynyddu ein cyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr i fynd i'r afael gydag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw o hyd, gan bwysleisio pwysigrwydd mynd i'r ysgol.