Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 3 Mai 2022.
I siarad am hanes hawliau dynol, a gadewch i ni ei gysylltu â'r Ddeddf ffiniau, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi eich bod wedi'ch brawychu gan yr hyn a ddigwyddodd i rai o'r bobl yn sgandal Windrush. Roeddwn i yn yr un ystafell pan fu'n rhaid i May egluro hynny i bobl eraill yn yr ystafell o Jamaica, ac fe gafodd gryn broblem yn gwneud hynny. Felly, o ran eu hanes eisoes ar hawliau dynol, cyn i ni hyd yn oed gyrraedd Deddf ffiniau, ydych chi'n cytuno â mi nad oes ganddyn nhw stori dda i'w hadrodd?