Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 3 Mai 2022.
Yn sicr, ac rwy'n credu mai dyna pam yr ydym ni’n pryderu. Rwy'n gwybod bod Darren Millar yn dweud, 'Arhoswch i weld', ond rydym ni'n iawn—. Rydym ni wedi gweld hanes Llywodraeth y DU ar hyn, a dylem fod yn bryderus iawn. Mae'r holl Filiau hyn yn mynd yn groes i bopeth yr ydym ni'n sefyll drosto yma yng Nghymru, yn enwedig trin mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n anghydnaws â'n hawydd yma i fod yn genedl noddfa wirioneddol. Maen nhw'n broblemus ac yn wahaniaethol. Maen nhw'n groes i gymdeithas deg ac nid ydyn nhw yn helpu i gynhyrchu democratiaeth gynhwysol sy'n gweithio'n dda i bawb.
Rydym ni wedi dweud, dro ar ôl tro, ein bod eisiau bod yn genedl gynhwysol—cenedl lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn teimlo'n gyfartal. Nid ydym yno eto. Ond bydd y diwygiadau hyn yn mynd â ni ymhellach oddi wrth sicrhau bod hawliau dynol pawb yn cael eu deddfu, ac rydw i'n falch ein bod yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw.