6. Dadl: Hawliau Dynol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 3 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:34, 3 Mai 2022

Mae Plaid Cymru yn falch o gyd-gyflwyno'r cynnig hwn, ac yn cytuno gyda Llywodraeth Cymru fod angen i'r Senedd hon anfon neges glir heddiw ein bod yn gwrthwynebu'r ymdrechion yma i gyfyngu ar hawliau pobl Cymru ac i danseilio ein hymdrechion i sicrhau tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder i bobl ein gwlad. Rydym yn cytuno ymhellach fod materion cyfansoddiadol difrifol yn codi yn sgil cynigion Llywodraeth San Steffan i ddiwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae'r cynnig heddiw yn cyfeirio at sawl mesur, sawl darn o ddeddfwriaeth sydd wedi ei basio neu sydd yn yr arfaeth sydd angen eu hystyried ar y cyd, achos wrth eu hystyried ar y cyd a'r modd y maent yn cyfuno, mae modd gweld y darlun mawr, yr agenda mwy, y cyfeiriad hynod bryderus a pheryglus sy'n nodweddu Llywodraeth Dorïaidd adweithiol Boris Johnson. Does dim dwywaith, does dim amheuaeth o gwbl, eu bod, ar y cyd, yn cynrychioli ymdrech fwriadol i wanhau hawliau pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Mae Llywodraeth bresenol San Steffan yn un sy'n bygwth ac yn cyfyngu hawliau ac yn tanseilio cydraddoldeb a chyfiawnder ar bob tu. Ac mae'r mesurau a'r cynlluniau deddfwriaethol sy'n cael eu crybwyll yn y cynnig ger ein bron yn brawf eglur o hynny. Sut mae modd cyfiawnhau, sut mae modd i unrhyw Aelod o'r Senedd beidio â gwrthwynebu cynlluniau sydd wedi eu galw'n fygythiad gwirioneddol i'r modd y gall dinasyddion herio'r rhai sy'n dal awenau grym? Sut, wrth inni wylio dewrder pobl Wcráin, y rhai sy'n gwrthwynebu rhyfel anghyfreithlon yr awtocrat Putin a'i gyfundrefn awdurdodaidd yn llythrennol ymladd ar y stryd, yn llythrennol yn aberthu eu bywydau a'u rhyddid dros yr egwyddor y dylai fod gan bobl hawl i wrthwynebu, hawl i herio a gwrthsefyll grym, hawl i gyfiawnder? 

Rydym eisoes wedi trafod yn y lle hwn sut y bydd y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn tanseilio hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sut y bydd yn gwanhau yr amddiffyniad i bobl ddiamddiffyn. Mae dogfen ymgynghori y Llywodraeth ei hun ar ddiwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol yn nodi'n gwbl blaen y dylai diwygio'r Ddeddf arwain at gynnydd mewn allgludiadau a sut y byddai hyn yn dod â buddion cyllidol—egwyddor ac ideoleg sy'n gwbl groes i ewyllys mwyafrif helaeth pobl Cymru yn wyneb yr hyn maen nhw'n gweld a thrallod pobl Wcráin ac eraill ar draws y byd sy'n wynebu trais ac erledigaeth. Sut, wrth inni gofio ein hanes ni yma, y gwrthryfel a'r gwrthdystio, y brwydro am hawliau a arweiniodd, yn y pen draw, at sicrhau bod gan bobl Cymru fwy o lais a mwy o rym dros ein bywydau, ac a sicrhaodd sefydlu ein Senedd?