Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 4 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn i Carolyn am y cwestiwn yma. Mae gen i drigolion yn Nwyfor Meirionnydd, yn Islaw'r-dref, er enghraifft, sy'n methu â chynnal eu busnes ar-lein ac sy'n gorfod symud i ffwrdd neu gau'r busnes i lawr. Mae gen i blant bach sy'n cael eu heithrio o sgyrsiau yn yr ysgol achos eu bod nhw'n methu â gweld y fideo diweddaraf ar YouTube, neu'n methu â chael mynediad i Netflix, er mwyn medru cymryd rhan yn y sgyrsiau efo'u cyd-ddisgyblion nhw. Mae eraill yn methu â gwneud gwaith cartref ar-lein, neu'n methu â chofrestru stoc oherwydd diffyg cysylltedd. Dydw i ddim yn gwybod sawl gwaith dwi wedi cael cyfarfod efo'r awdurdodau, boed yn Openreach neu'n rhywun arall, a hwythau'n dweud efo balchder eu bod nhw'n mynd i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth o fewn rhai blynyddoedd. Y gwir ydy, ni ddylid anelu i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth; dylid anelu i gyrraedd 100 y cant o'r boblogaeth, a dim llai. Beth ydy'r pwynt hefyd i drigolion gwledig gael mynediad i dechnoleg heddiw mewn pum mlynedd, pan fydd y dechnoleg mewn pum mlynedd wedi symud ymlaen a hwythau'n cael eu heithrio o'r dechnoleg newydd yna? Felly mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. A wnewch chi, felly, sicrhau bod cael mynediad i'r we i bawb yng Nghymru—nid canran o'r bobl, ond i bawb—yn flaenoriaeth i chi fel Llywodraeth?