1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 4 Mai 2022.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol mewn cymunedau gwledig? OQ57979
Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y gall technoleg ddigidol eu cynnig. Ac mae dros 91,000 o bobl wedi cael cymorth gyda sgiliau digidol sylfaenol, cymhelliant a hyder, a all eu helpu i gael cyflogaeth, cyrchu gwasanaethau a chefnogi llesiant.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llawer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru'n byw mewn cymunedau gwledig sy’n aml yn cael eu gwasanaethu’n wael gan y seilwaith digidol presennol, ac er bod rhai bellach yn cael cynnig gwell gwasanaethau, gall fod yn anodd gwneud y penderfyniadau cywir o ran darparwyr, mathau o fand eang a newid llinellau ffôn. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i'r argyfwng costau byw barhau a gall gwella cysylltedd digidol cartref fod yn ddrud. Pa gymorth sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i arwain pobl mewn cymunedau gwledig drwy’r broses o wella cysylltedd digidol fel nad ydynt yn cael eu hallgáu o fyd lle mae bod ar-lein bellach yn hanfodol?
Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas, am eich cwestiwn pwysig fel yr Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru. Mae gwefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru/band-eang-yng-nghymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i helpu i arwain pobl drwy’r broses o wella cysylltedd digidol, gan gynnwys yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. Mae'n hanfodol yn awr ein bod yn cynyddu ein dealltwriaeth a'n hymwybyddiaeth o hynny, fel y dywedwch, yn enwedig mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, ond hefyd er mwyn croesawu'r ffaith bod gan lawer o awdurdodau lleol swyddogion ymgysylltu band eang sy'n helpu pobl a chymunedau i wella eu cysylltedd digidol, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, sir y Fflint, sir Ddinbych a Wrecsam yn y gogledd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau y gwneir y mwyaf o hyn ac estyn allan at eich dinasyddion a’ch etholwyr.
Weinidog, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig nad ydynt ar-lein fel arfer wedi'u hallgáu oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Carolyn. Gyda gwasanaethau band eang symudol a llinell sefydlog, mae'n aml yn wir fod y ddau fath yn broblem i etholwyr. Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o’r defnyddwyr mwyaf o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan ddatblygiadau diweddar sydd wedi golygu bod gwasanaethau, fel gwneud apwyntiadau, gwneud ceisiadau am bresgripsiynau ac ymgynghoriadau wedi symud ar-lein. O gofio bod llai o bobl yng Nghymru'n defnyddio’r rhyngrwyd i reoli eu hiechyd na gweddill y Deyrnas Unedig, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud—a gwn o’ch ateb blaenorol, ichi sôn am y wefan a’r gwasanaethau cymorth, ond beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud—i sicrhau nad yw pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl a'u hallgáu o fanteision cyrchu gwasanaethau iechyd ar-lein? Diolch.
Diolch, Natasha Asghar. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn hefyd. Yn ddiddorol, gwyddom drwy arolwg cenedlaethol Cymru nad ardaloedd gwledig a threfol o reidrwydd yw achos sylfaenol allgáu digidol—mae 93 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol yn defnyddio'r rhyngrwyd. Ond fel y dywedwch, o ran cynhwysiant digidol a mynediad at iechyd, mae'n bwysig cydnabod hefyd fod £2 filiwn y flwyddyn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen honno—y rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant—ers mis Gorffennaf 2019. A dweud y gwir, cefais gyfarfod am hyn gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Cwmpas, sy'n gweithio i hyrwyddo rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, yr wythnos diwethaf, a buom yn edrych ar y materion penodol hyn mewn perthynas â mynediad at iechyd. Mae'n ddiddorol hefyd, er enghraifft, fod byrddau iechyd yn mabwysiadu cyfrifoldebau. Mae bwrdd Hywel Dda'n gweithio’n agos gyda Cymunedau Digidol Cymru i ystyried sut i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu cynlluniau ac maent hefyd yn ymrwymo i’r siarter cynhwysiant digidol. Ond yn olaf ar y pwynt hwn, rydym yn awyddus iawn i weithio ar safon ofynnol Cymru ar gyfer bywyd digidol, ac mae hynny bellach yn mynd rhagddo—rydym wedi comisiynu Prifysgol Lerpwl i barhau â'r gwaith hwn.
Diolch yn fawr iawn i Carolyn am y cwestiwn yma. Mae gen i drigolion yn Nwyfor Meirionnydd, yn Islaw'r-dref, er enghraifft, sy'n methu â chynnal eu busnes ar-lein ac sy'n gorfod symud i ffwrdd neu gau'r busnes i lawr. Mae gen i blant bach sy'n cael eu heithrio o sgyrsiau yn yr ysgol achos eu bod nhw'n methu â gweld y fideo diweddaraf ar YouTube, neu'n methu â chael mynediad i Netflix, er mwyn medru cymryd rhan yn y sgyrsiau efo'u cyd-ddisgyblion nhw. Mae eraill yn methu â gwneud gwaith cartref ar-lein, neu'n methu â chofrestru stoc oherwydd diffyg cysylltedd. Dydw i ddim yn gwybod sawl gwaith dwi wedi cael cyfarfod efo'r awdurdodau, boed yn Openreach neu'n rhywun arall, a hwythau'n dweud efo balchder eu bod nhw'n mynd i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth o fewn rhai blynyddoedd. Y gwir ydy, ni ddylid anelu i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth; dylid anelu i gyrraedd 100 y cant o'r boblogaeth, a dim llai. Beth ydy'r pwynt hefyd i drigolion gwledig gael mynediad i dechnoleg heddiw mewn pum mlynedd, pan fydd y dechnoleg mewn pum mlynedd wedi symud ymlaen a hwythau'n cael eu heithrio o'r dechnoleg newydd yna? Felly mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. A wnewch chi, felly, sicrhau bod cael mynediad i'r we i bawb yng Nghymru—nid canran o'r bobl, ond i bawb—yn flaenoriaeth i chi fel Llywodraeth?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mewn gwirionedd, mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi prosiect adfywio cymunedol Dinasyddion Ar-lein—mae'n debyg eich bod yn ymwybodol ohono, Mabon—sef Gwynedd Ddigidol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl â sgiliau digidol sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth. Hefyd, gan gydnabod nad yw telathrebu wedi’i ddatganoli i Gymru—gwnaethom sylwadau ar hynny ddoe—rydym yn parhau i sicrhau gwelliannau mewn cysylltedd digidol, yn benodol ar draws gogledd Cymru i ymateb i’ch cwestiwn, ond wrth gwrs, ar gyfer Cymru gyfan. Felly, ar gyfer y gogledd, o dan ein cynlluniau gwerth £56 miliwn i gyflwyno band eang ffeibr llawn, rydym eisoes wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr llawn i 8,869 o adeiladau yn chwe sir gogledd Cymru, a chan weithio'n agos iawn gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, rydym wedi cysylltu campysau a phrosiectau coridor.