Cynhwysiant Digidol mewn Cymunedau Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 1:31, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llawer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru'n byw mewn cymunedau gwledig sy’n aml yn cael eu gwasanaethu’n wael gan y seilwaith digidol presennol, ac er bod rhai bellach yn cael cynnig gwell gwasanaethau, gall fod yn anodd gwneud y penderfyniadau cywir o ran darparwyr, mathau o fand eang a newid llinellau ffôn. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i'r argyfwng costau byw barhau a gall gwella cysylltedd digidol cartref fod yn ddrud. Pa gymorth sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i arwain pobl mewn cymunedau gwledig drwy’r broses o wella cysylltedd digidol fel nad ydynt yn cael eu hallgáu o fyd lle mae bod ar-lein bellach yn hanfodol?