Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 4 Mai 2022.
Mewn gwirionedd, mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi prosiect adfywio cymunedol Dinasyddion Ar-lein—mae'n debyg eich bod yn ymwybodol ohono, Mabon—sef Gwynedd Ddigidol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl â sgiliau digidol sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth. Hefyd, gan gydnabod nad yw telathrebu wedi’i ddatganoli i Gymru—gwnaethom sylwadau ar hynny ddoe—rydym yn parhau i sicrhau gwelliannau mewn cysylltedd digidol, yn benodol ar draws gogledd Cymru i ymateb i’ch cwestiwn, ond wrth gwrs, ar gyfer Cymru gyfan. Felly, ar gyfer y gogledd, o dan ein cynlluniau gwerth £56 miliwn i gyflwyno band eang ffeibr llawn, rydym eisoes wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr llawn i 8,869 o adeiladau yn chwe sir gogledd Cymru, a chan weithio'n agos iawn gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, rydym wedi cysylltu campysau a phrosiectau coridor.