Effaith Chwyddiant

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:06, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n dyfynnu Jack Monroe:

'Fe brynais werth £10 o fwyd yn 2012... a phrynu'r un peth yn union' yn 2022,

'ac fe gostiodd £17.11.'

Dyna gynnydd o dros 70 y cant. Nid yw'r isafswm cyflog na budd-daliadau wedi codi'n agos at y lefel honno. Hyd yn oed gyda'r newid gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y ffordd y mae'n casglu data chwyddiant, nid yw'r cynnydd enfawr mewn prisiau bwyd yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn y cyfraddau chwyddiant. Mae mwy a mwy o bobl dlawd yn gorfod defnyddio banciau bwyd. Mae gan saith o'r wyth ward yn fy etholaeth fanc bwyd erbyn hyn. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fanciau bwyd?