Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 4 Mai 2022.
Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, Joyce Watson. Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi dweud yn glir fod y mesurau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, gan gynnwys symud y gwaith o brosesu ceiswyr lloches i wlad arall, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, confensiwn y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo. Mae cynllun Rwanda yn warthus, ac rwy'n gwneud fy marn yn glir i'r Gweinidog mewnfudo.