Polisi Rwanda ar gyfer Ceiswyr Lloches

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:14, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y diweddariad hwnnw, Weinidog. Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn foesol ffiaidd, am yr holl resymau a drafodwyd gennym ddoe yn y ddadl ar hawliau dynol, ond mae'n anghyfiawn o ddrud. Ac o ystyried rhwymedigaeth Prydain o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig a'r cyfreithiau hawliau dynol, mae'n edrych yn anymarferol beth bynnag, fel y mae'r heriau cyfreithiol a welsom yn y dyddiau diwethaf yn dangos. A dweud y gwir, mae'r cynllun yn llanastr. Felly, a ydych yn rhannu fy nicter a fy rhwystredigaeth mai'r unig beth sy'n sicr am y polisi hynod gywilyddus hwn gan y Torïaid yw y bydd yn mynd ag arian o bocedi trethdalwyr Cymru ac y bydd ffoaduriaid yn fwy bregus nag y buont erioed?