2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 4 Mai 2022.
1. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â thribiwnlys rhyngwladol i erlyn troseddau rhyfel Vladimir Putin yn Wcráin? OQ57978
Diolch am y cwestiwn. Cyfarfûm â swyddogion y gyfraith o Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ynghylch y cymorth y gellir ei ddarparu i erlyn troseddau rhyfel. Byddwn yn parhau i gysylltu â Llywodraethau tair gwlad arall y DU i ddarparu unrhyw gymorth posibl er mwyn dwyn y rheini sy'n gyfrifol i gyfrif.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac os caf, Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i'n Senedd yma yn y Siambr am y ffordd y mae'r Cwnsler Cyffredinol—yn rhinwedd ei swydd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn bersonol—y ffordd y mae wedi hyrwyddo achos pobl Wcráin, nid yn unig yn ddiweddar, ond ers blynyddoedd lawer?
Lywydd, dylai'r holl ddynoliaeth siarad ag un llais, a dweud y dylai'r rhai sydd wedi achosi'r rhyfel hwn a'r erchyllterau cysylltiedig wynebu cyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan ragweithiol yn codi llais dros gyfiawnder?
Wel, diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, ac mae'n eithaf gwarthus mewn sawl ffordd, onid yw, ein bod mewn byd lle'r ydym yn trafod troseddau rhyfel ac erlyn y troseddwyr. A gaf fi ddiolch i'r Aelod? Wrth gwrs, fe godoch chi fater troseddau rhyfel a Putin yn eich cwestiwn brys ar 1 Mawrth.
Mae gennym gryn dipyn o unigolion wedi cyrraedd o Wcráin, sydd wedi gweld rhai o'r erchyllterau mwyaf gwarthus o fewn cof. Bydd y tîm troseddau rhyfel, gyda gwasanaeth gwrth-derfysgaeth yr Heddlu Metropolitan, yn cynorthwyo'r ymchwiliad i droseddau rhyfel, ac maent yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Llys Troseddau Rhyngwladol. Yn amlwg, dylid adrodd am unrhyw dystiolaeth o droseddau o'r fath wrth y tîm troseddau rhyfel yn yr Heddlu Metropolitan.
Nawr, rwyf wedi trafod y mater hwn gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Weinidog yn wir, ynglŷn â'n hymagwedd tuag at hynny. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen i bobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin fod yn ymwybodol o'r cyfle i gyflwyno tystiolaeth a allai fod yn uniongyrchol berthnasol i droseddau rhyfel y gallent fod wedi'u profi. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir gwneud hyn yn ymarferol mewn canolfannau croeso, a thrwy'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin i unigolion a theuluoedd. Rhaid inni sylweddoli, wrth gwrs, fod rhai o'r bobl hyn wedi'u trawmateiddio a bod hwn yn fater y mae'n rhaid ei drin yn sensitif iawn.
Ar fater ehangach troseddau rhyfel, wel, wrth gwrs, o dan ymchwiliad y Llys Troseddau Rhyngwladol, byddai unrhyw erlyniadau fel arfer yn cael eu dwyn gerbron gan Lywodraeth Wcráin. Yn y trafodaethau a gawsom, rydym wedi rhoi cefnogaeth lawn i weld y Deyrnas Unedig yn rhan o ymdrech ryngwladol i ddarparu'r gefnogaeth, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen i alluogi'r hynny. Rhaid i fater troseddau rhyfel beidio â bod yn rhywbeth y gellir ei gyfnewid am drafodaethau ynghylch sancsiynau, ac mae'n rhaid mynd ar eu trywydd ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n cymryd, ac wrth gwrs, maent yn faterion allweddol yn y pen draw wrth ddechrau ar y broses o wneud iawn i Wcráin am ganlyniadau gweithredoedd Rwsia.