Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:40, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae hwnnw'n bwynt teg iawn. Fel rhan o'r broses o ddiwygio'r system dribiwnlysoedd, rydym eisiau sicrhau bod gwahaniad barnwrol ac annibyniaeth briodol i'r system honno, ond hefyd fod gan y tribiwnlysoedd y cyfleusterau priodol sy'n angenrheidiol iddynt gael eu hystyried yn llysoedd priodol, i ennyn parch llysoedd priodol, ac i gael y cyfleusterau priodol i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt. Mae hynny'n cael ei ystyried a'i adolygu, a bydd yn rhan o'r hyn y cyfeiriais ato'n gynharach gyda ein hadolygiad ehangach o'r system gyfiawnder gyffredinol yng Nghymru, argymhellion comisiwn Thomas a materion yn ymwneud â datganoli cyfiawnder.