Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 4 Mai 2022.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ganolbwyntio yn awr ar Dribiwnlysoedd Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael sawl adroddiad yn awr sy'n argymell gwahanu uned Tribiwnlysoedd Cymru oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae hyn, mewn gwirionedd, wedi'i gymeradwyo gennych chi a Llywodraeth Cymru. Ond yn hytrach na sefydlu adran anweinidogol, pam fod uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi'i symud o swyddfa'r Prif Weinidog i adran yr economi, masnach a'r cyfansoddiad? Ac ar gyfleusterau, fe sonioch chi am ddiffyg cyfleusterau mewn perthynas â'r llys. Mae prydles yr unig gyfleuster ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig, Oak House, yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleusterau digonol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru?