Canolfan Gyfiawnder Newydd i Gaerdydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:00, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Ers imi gyfarfod ag uwch aelodau o’r farnwriaeth yng nghanolfan cyfiawnder sifil Caerdydd fis Medi diwethaf, rwyf wedi parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch yr angen cynyddol i gael gwared ar y ganolfan cyfiawnder sifil a chael un yn ei lle sy’n addas ar gyfer prifddinas yn yr unfed ganrif ar hugain.