Canolfan Gyfiawnder Newydd i Gaerdydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:01, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae’r adeilad presennol, sydd yn fy etholaeth, wedi dyddio ac yn gwbl annigonol. Mae’n anniogel i deuluoedd ac nid yw’n lle da i’r farnwriaeth, ei staff a’i chyfreithwyr fod yn gweithio ynddo. Gan mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw datrys y broblem hon, tybed sut nad ydym wedi gweld unrhyw gynnydd ers eich cyfarfod ym mis Medi. Oherwydd mae peidio â buddsoddi yn ein system gyfiawnder yn effeithio ar ansawdd cyfiawnder, ond hefyd ar y canfyddiad o bwysigrwydd cyfiawnder yng Nghymru, ac yn atal unrhyw un sydd am ddod i weithredu o’r eiddo hwn, sy'n amlwg yn amharu ar ddatblygiad economi gyfreithiol ffyniannus yng Nghymru. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa gwbl annerbyniol hon?