Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:12, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Comisiwn gondemnio’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi yn llwyr, ac a wnaiff y Comisiwn ddweud na fydd unrhyw gontractwr a ariennir gan y Comisiwn sy'n defnyddio dull o’r fath i leihau telerau ac amodau gweithwyr yn cael tendro a bod yn rhan o’r Comisiwn ac yn gyflogedig gan y Comisiwn mwyach, p'un a ydynt yn gwneud hynny gyda rhannau eraill o'r sefydliad, neu'n gwneud hynny gyda'r bobl y maent yn eu cyflogi yn y Comisiwn? Ac a wnewch chi gytuno â mi hefyd nad oes lle i ddiswyddo ac ailgyflogi yn unman yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?