Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 4 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:13, 4 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â’r Aelod nad oes unrhyw le i’r arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi yn ein barn ni. Fel y dywedais mewn ymateb i Heledd Fychan, byddwn yn parhau i edrych i weld a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r amddiffyniadau yn erbyn yr arfer hwn. Mae'n annerbyniol, nid yw’n rhywbeth y byddem yn dymuno'i weld, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn monitro contractau a gweithgarwch i sicrhau nad yw’n rhan o’r busnes yr ydym yn ei gefnogi.