Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 4 Mai 2022.
Roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid dros yr economi pan oedd y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd, a oedd yn gyfrifol am yr economi, Ieuan Wyn Jones, cyn-arweinydd eich plaid, yn gyfrifol am gynhyrchu strategaeth weithgynhyrchu, strategaeth y methodd ei chynhyrchu yn y pum mlynedd y bu wrth y llyw. A ydych yn gresynu na lwyddodd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog i lunio strategaeth weithgynhyrchu, a fyddai'n cael effaith yn awr pe bai wedi tynnu ei fys allan a'i wneud?