1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan oeddwn i'n mynd o gwmpas Cymru dros yr wythnosau diwethaf, a oedd yn llawer mwy proffidiol i chi nag i mi fel y daeth i'r amlwg ddydd Iau diwethaf—[Chwerthin.]—codwyd llawer o bethau gyda mi wrth i mi fynd o gwmpas Cymru, ond un o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg ym mhob rhan o Gymru oedd mynediad at feddygon teulu a'r gallu i gael apwyntiadau mewn meddygfeydd teulu. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynllunio'r gweithlu a'r arian a fydd ar gael yn sôn am ariannu 160 o leoedd y flwyddyn, ond, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, i fodloni'r gofyniad galw, bydd angen i ni ariannu yn agos at 200 o leoedd i wneud yn siŵr ein bod ni'n disodli pobl sy'n ymddeol neu'n gadael y gweithlu neu'n lleihau eu horiau.
Pwynt arall sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Feddygol Prydain yw mai dim ond ychydig dros ddwy ran o dair o feddygon yma yng Nghymru sy'n gweithio oriau llawn amser, felly mae bron i draean ar oriau rhan-amser, ac yn yr un modd mae gennym ni nifer uwch o feddygon teulu sydd dros 60 oed—mae 23 y cant o feddygon teulu yng Nghymru dros 60 oed ar hyn o bryd. Mae hynny'n creu, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi, pwysau gwirioneddol o ran llunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod problem o ran cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer darpariaeth meddygon teulu yma yng Nghymru, a hefyd gwneud yn siŵr ein bod ni'n creu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac y gall cleifion ei ddefnyddio lle bynnag yr ydych chi'n byw yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni hyfforddi'r gweithlu meddygon teulu sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Cawsom gyfnod nid mor bell â hynny yn ôl pan oeddem ni'n ei chael hi'n anodd llenwi nifer y lleoedd hyfforddi a oedd ar gael gennym ni. Nawr, mae gormod o alw am leoedd hyfforddi, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei gymryd i ystyriaeth gan y corff sy'n cynllunio darpariaeth y gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod wedi gweld y nifer ddiweddaraf o feddygon teulu sydd gennym ni yng Nghymru, a gynyddodd eto yn y ffigurau a gyhoeddwyd tua adeg y Nadolig. Er bod nifer y meddygon teulu yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr wedi bod yn gostwng, yng Nghymru rydym ni'n llwyddo i gynnal y nifer sydd gennym ni, a'i chynyddu hefyd.
Mae natur y gweithlu meddygon teulu yn newid, Llywydd. Mae pobl yn dewis gweithio oriau rhan-amser, ac mae hynny yn adlewyrchu natur y bobl sy'n cael eu recriwtio iddo. Nid yw'r hen batrymau—yr hen batrymau—o bobl yn prynu cyfran mewn busnes, yn meddwl y byddan nhw yno am 30 neu 40 mlynedd, nid yw llawer o bobl ifanc sy'n dod yn feddygon teulu yn gweld eu dyfodol yn y ffordd honno, ac mae'n rhaid i ni lunio dyfodol iddyn nhw sy'n golygu bod Cymru yn parhau i ddenu'r bobl sydd eu hangen arnom ni. Gwnaf un pwynt arall, yr wyf i'n ei wneud bob tro y caiff hyn ei godi gyda mi: mae gofal sylfaenol yn fwy na meddygon teulu. Ac er bod meddygon teulu yn hanfodol, maen nhw'n goruchwylio'r system, mae ganddyn nhw lefel o arbenigedd sy'n golygu eu bod nhw'n gyfrifol am y tîm ehangach, mae'r dyfodol yn ymwneud o leiaf â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r holl elfennau eraill hynny o'r tîm—y nyrsys practis, y parafeddygon, y ffisiotherapyddion—yr holl bobl hynny a fydd yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu i wneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaeth gofal sylfaenol sydd ei angen arnyn nhw.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod mwy o feddygon teulu yng Nghymru, ond mae'n ffaith, yn amlwg, bod llawer ohonyn nhw yn rhan-amser, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol i chi. Mae bron i draean o'r gweithlu ar sail ran-amser pan ddaw i bractisau meddygon teulu. Yn bwysig, fel y dywedais wrthych chi, rwy'n cydnabod bod mwy o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi, ond mae'r ffigurau gwirioneddol yn dangos bod y Llywodraeth yn ariannu lleoedd hyfforddi i tua 160 y flwyddyn, pan fo'r galw gwirioneddol yn 200 o leoedd. Felly, yr hyn yr wyf i'n chwilio amdano gennych chi heddiw, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y rhai sy'n gysylltiedig â gofal meddygol sylfaenol yma yng Nghymru yn chwilio amdano hefyd, yw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fodloni'r galw sydd ei angen ar y gofyniad, sef rhoi 40 o leoedd eraill ar y bwrdd fel y gallwn ni gyrraedd 200 o leoedd hyfforddi yma yng Nghymru i fodloni'r ffordd y bydd angen i weithlu 2030 edrych yn y sector sylfaenol. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud bod y sector sylfaenol yn ehangach na phractisau meddygon teulu yn unig—mae fferyllwyr yn arbennig yn cynnig swyddogaeth bwysig dros ben o ran cefnogi meddygon teulu yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud—ond mae'n ffaith eich bod chi angen, fel sail i fynediad at y GIG, gweithlu meddygon teulu cadarn a chynaliadwy ac, fel y dywedais i, mae'r modelu yn dangos bod angen i ni hyfforddi 200 o feddygon teulu y flwyddyn yn hytrach na'r 160 yr ydym ni'n eu hyfforddi ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i hynny?
Llywydd, nid oes llawer yr wyf i'n anghytuno ag ef yn yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, ac rwy'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd fferyllwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Maen nhw'n chwarae rhan arbennig o arwyddocaol ar hyn o bryd pan fo prinder, am amryw o resymau, nifer o feddyginiaethau pwysig iawn y mae'n rhaid i fferyllwyr eu rheoli. Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi fodelu'r angen am feddygon teulu yn y dyfodol. Rydym ni'n gofyn i'r corff yr ydym ni wedi ei sefydlu, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wneud hynny ar ein rhan. Byddan nhw'n cymryd safbwyntiau’r proffesiwn i ystyriaeth, wrth gwrs, ond bydd ganddyn nhw ffynonellau eraill o dystiolaeth ar gael iddyn nhw. Nid yw'r Llywodraeth Lafur hon erioed wedi methu ag ariannu cynnydd i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu pan mai dyna'r cyngor yr ydym ni wedi ei gael gan y rhai sydd yn y sefyllfa i gynnal y dadansoddiad hwnnw. Os byddan nhw'n dod atom ni ac yn gofyn am gynnydd pellach—cofiwch, mae 160 yn gynnydd sylweddol ar y ffigurau a oeddem gennym ni gynt—os byddan nhw'n dod atom ni ac yn gwneud y ddadl honno, yna, wrth gwrs, bydd hynny yn cael ei ystyried yn briodol iawn gennym ni.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y rhai yn y maes meddygol fel Cymdeithas Feddygol Prydain yn dod ac yn gwneud y ddadl rymus honno i chi, oherwydd fe wnes i synhwyro ymrwymiad i sicrhau'r lleoedd wedi'u hariannu ychwanegol hynny os caiff y ddadl honno ei gwneud i chi. Ond yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yn y sector acíwt, h.y. yr ysbytai, yw nad yw data rheolaidd yn cael eu darparu ar gyfraddau swyddi gwag. Roedd i'w groesawu bod y mesur staff nyrsio wedi cael ei roi ar waith beth amser yn ôl a oedd yn diogelu rhai swyddi yn yr ysbytai, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o'r atebion rhyddid gwybodaeth y mae sefydliadau wedi eu cael yw mai dim ond 52 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol sy'n barhaol mewn rhai byrddau iechyd—mae 48 y cant wedi eu llenwi gan feddygon ymgynghorol dros dro. Mae'n amlwg nad yw hynny yn gynaliadwy o ran datblygu gweithlu i ymdrin â'r ôl-groniad o'r pandemig, ond hefyd gweithlu sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. A wnewch chi ymrwymo i wneud yn siŵr bod data rheolaidd ar swyddi gwag yn y sector acíwt, h.y. ein hysbytai, yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni weld faint o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran llenwi'r swyddi gwag sydd ar ein taflenni ysbytai ar hyn o bryd fel y gellir cael cymorth wrth gefn ar gyfer rowndiau ward ac y gallwn ni wneud cynnydd gwirioneddol o ran ymdrin â'r rhestrau aros sydd wedi datblygu drwy'r pandemig?
Llywydd, rwy'n hapus i edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi. Rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o ddata ar weithlu Cymru. Os oes bylchau ynddo y gellir eu llenwi yn synhwyrol, yna wrth gwrs rwy'n hapus i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, efallai y byddai rhai yn meddwl ei fod yn ddewis rhyfedd i ni ddewis cyhoeddi telerau ein cytundeb ar gryfhau democratiaeth Cymru ar yr un diwrnod ag agoriad swyddogol y Senedd arall honno ar lannau afon Tafwys. Rwy'n credu ei fod yn serendipaidd, oherwydd mae'n caniatáu i ni nodi gwrthgyferbyniad, onid yw, gyda'r system sigledig honno yn San Steffan, gyda'r holl bomp a seremoni, gydag ASau etholedig—roeddwn i yn arfer bod yn eu plith—yn cael eu galw gan Black Rod i Dŷ'r Arglwyddi anetholedig sy'n llawn dop gyda ffrindiau Boris Johnson. Nawr, y tu hwnt i fanylion yr hyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi heddiw, onid yr hyn sydd wrth ei wraidd yw'r awydd i adeiladu, yma yng Nghymru, democratiaeth fodern, gan ddiddymu'r system y cyntaf i'r felin annheg, Senedd ymarferol sy'n gwbl gytbwys o ran y rhywiau ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, nid Senedd San Steffan, sy'n glwb bonheddwyr ac yn bantomeim yn un?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn yn natblygiad y sefydliad hwn. Fe wnes i ddod â fy nghopi o gomisiwn Richard gyda mi, a phan roeddwn i'n meddwl am ddod i lawr yma y prynhawn yma, cofiais yn eglur sefyll ochr yn ochr â'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, pan wnaeth alwad ffôn i'r Arglwydd Richard yn gofyn iddo gadeirio'r comisiwn hwnnw. A dyma ni, 20 mlynedd y tu hwnt i'w gynnig i ehangu nifer yr Aelodau etholedig yma yng Nghymru, o'r diwedd yn gallu dod â chapasiti'r Senedd i bwynt lle y gall gyflawni'r cyfrifoldebau sy'n disgyn ar ysgwyddau pobl sy'n cael eu hethol i fod yma. Ac onid dyna bwrpas y diwygiad? I wneud yn siŵr bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran pobl yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan sefydliad sydd â'r adnoddau priodol i wneud hynny.
Rwyf i wedi edrych yn ôl yn ddiweddar, Llywydd, ar y cynigion niferus i greu Senedd yma yng Nghymru. Nid oedd yr un ohonyn nhw, ac eithrio'r un a gyrhaeddodd y llyfr statud, yn cynnig nifer mor fach â 60. Cynigiodd adroddiad Kilbrandon, a sefydlwyd yn y 1960au, 100 o aelodau ar gyfer y senedd Cymru a gynigiwyd ganddo. Gallwch fynd yn ôl cyn belled â Bil Llywodraeth Cymru dydd Gŵyl Dewi Emlyn Hooson ym 1967 i weld cynnig ar gyfer 88 aelod o'r senedd a gynigiwyd bryd hynny, ac roedd hwnnw yn gorff heb lawer o'r cyfrifoldebau y mae'n rhaid eu harfer yma. Felly, diben y diwygiadau a'r ffaith ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb, ar ôl yr hyn a fydd erbyn hynny wedi bod yn 25 mlynedd o geisio sicrhau diwygio, fydd creu senedd yma yng Nghymru sy'n adlewyrchu pobl Cymru yn ei hamrywiaeth, ac sydd â'r gallu priodol i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r Senedd hon yn gyfrifol am eu cyflawni ar ran pobl Cymru.
Wrth gwrs, mae'r Blaid Geidwadol, yn ôl y disgwyl unwaith eto, yn dweud nad yw pobl Cymru eisiau mwy o wleidyddion. Maen nhw bron yn iawn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn nad yw pobl Cymru ei eisiau yw mwy o wleidyddion Torïaidd, fel y gwelsom ni'n cael ei ddangos yn eglur ddydd Iau. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog, wahanol weledigaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Nawr, nid yw'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yma, wrth gwrs, yn—. Nid yw'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yma, wrth gwrs, yn garreg sarn tuag at unrhyw un dyfodol i Gymru, nid opsiwn hanner ffordd, ond sylfaen gadarn i bobl Cymru allu penderfynu ar eu dyfodol eu hunain—democratiaeth sy'n ystyriol o'r dyfodol, yn barod am fwy o bwerau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac onid dyna'r cwestiwn canolog—a ddylai'r Senedd hon fod yn symbol o'n democratiaeth yn unig, ynteu a ddylai fod yn Senedd sydd â'r pwerau, yr amser, y sgiliau, yr offer a'r personél i wneud y gwaith y mae pobl Cymru wedi gofyn i ni ei wneud, nid yn unig mewn un refferendwm, ond mewn dau, ac ym mhob etholiad y mae pob un ohonom ni wedi sefyll ynddo yn y cyfamser?
Llywydd, nid wyf innau ychwaith yn synnu at wrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig i ddatblygu democratiaeth ymhellach yma yng Nghymru. Yr holl ddadleuon a glywaf yn cael eu defnyddio yw'r union ddadleuon a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wrth wrthwynebu datganoli yn y lle cyntaf. Mae hon yn blaid sydd heb newid o gwbl o ran y materion hyn. Nid oes angen i ni arllwys halen i unrhyw friwiau agored yma, rwy'n siŵr, ond bydd pobl o amgylch y Siambr yn gwybod, ddydd Iau yr wythnos diwethaf, yn yr Alban, y collwyd 23 y cant o gynghorwyr Ceidwadol yn yr etholiad; yn Lloegr, methodd 25 y cant o gynghorwyr Ceidwadol â chael eu hailethol; ac yng Nghymru gostyngodd y nifer 44 y cant. Mae'n rhaid bod hynny yn dweud rhywbeth wrthych chi. Mae'n dweud rhywbeth wrthych chi am y ffordd nad yw'r safbwyntiau adweithiol parhaus y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cymryd yn cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl yng Nghymru eisiau gweld eu democratiaeth yn datblygu. Mae pobl eisiau gweld Siambr yma sydd â'r adnoddau priodol i wneud y gwaith y gofynnir i ni ei wneud. Mae adroddiad ar ôl adroddiad a chomisiwn ar ôl y comisiwn wedi dangos, gyda'i haelodaeth bresennol a lefel y cyfrifoldebau a gyflawnir yma, na allwch chi wneud y gwaith yn y ffordd y mae gan bobl yng Nghymru yr hawl i ddisgwyl iddo gael ei wneud. Bydd y diwygiadau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn cywiro hynny, ac yn ei gywiro nid yn unig am y 10 mlynedd nesaf ond rwy'n meddwl am y dyfodol rhagweladwy.
Un o'r ffyrdd o gadarnhau eich bod chi'n iawn, wrth gwrs, yw gwybod bod y Blaid Geidwadol yn anghytuno â chi, oherwydd maen nhw wedi bod ar ochr anghywir hanes ar bron bob cwestiwn pwysig mewn 300 mlynedd o gynnydd dynol.
Un o'r pethau mwyaf cyffrous am y cynlluniau diwygio yw'r addewid i ddeddfu i warantu cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a merched wrth galon ein prif gorff democrataidd. Tra bod cwotâu rhywedd statudol yn ganolog i'r prif gynigion rŷn ni wedi'u cyhoeddi heddiw, ac yn gwbl hanfodol i wireddu'r nod hynny, ac yn gweithio er lles pawb yng Nghymru, ydy'r Prif Weinidog yn gytûn y dylid manteisio ar y cyfle mae diwygio yn ei gynnig i gyflwyno ystod ehangach o gamau i sicrhau bod y Senedd yn gynhwysol, gan gynnwys rhannu swyddi gan Aelodau a mesurau eraill i warantu cynrychiolaeth pobl o liw a grwpiau lleiafrifol ethnig yn y Senedd? A thu hwnt i'r materion sylfaenol rŷn ni wedi cyhoeddi yn eu cylch heddiw, onid oes angen bod yn glir mai dechrau'r drafodaeth ydyn ni i'r Senedd, i fywyd cyhoeddus, ac i bawb sydd am weld gwella Cymru gymryd rhan ynddi?
Llywydd, bydd Bil yn dod o flaen y Senedd, a bydd cyfleoen i bob Aelod fan hyn i dreial tynnu ar y cyfleoen fydd yn y Bil i wneud mwy i greu Senedd sy'n adlewyrchu'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi llwyddo i wneud rhai pethau dros y blynyddoedd, yn enwedig yn y Blaid Llafur, ond mae mwy gyda ni i'w wneud—y pethau rŷn ni wedi cytuno arnynt heddiw—a rhoi hynny ar y gweill. Ond mae lot mwy o fanylion i'w trafod i greu Senedd lle mae pobl sydd ddim wedi bod yn rhan o'r hanes fan hyn dros y ddegawd ddiwethaf yn gallu gweld Senedd lle maen nhw'n gallu gweld cyfleoen iddyn nhw sefyll i fod fan hyn lle rŷn ni wedi bod o'r blaen. Nawr, mae hwnna'n rhywbeth cyffrous, dwi'n cytuno. Pan oedden ni'n trafod y pwnc yn Llandudno yng nghynhadledd y Blaid Llafur, roedd pobl o'r llawr yn dod at y llwyfan i ddweud tro ar ôl tro eu bod nhw eisiau inni ddefnyddio'r cyfleoen nawr i greu dyfodol lle gall pobl o bob cefndir yng Nghymru edrych ar y Senedd a meddwl, 'Fe allaf i fod yna.'
A gaf i wneud pwynt o drefn, Llywydd?
Cewch.
Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi egluro eich penderfyniad o ran y cytundeb cydweithredu. Rwy'n credu eu bod nhw'n bwyntiau rhesymol iawn yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn eu codi yn y fan yna, ac mae gan y Prif Weinidog berffaith hawl i ymateb iddyn nhw, ond rydych chi wedi penderfynu mewn llythyr a anfonwyd gennych chi pan ddaeth y cytundeb cydweithredu i rym y dylai cwestiynau i'r Prif Weinidog gan arweinydd Plaid Cymru osgoi'r cytundeb cydweithredu. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd y datganiad i'r wasg a ddilynodd y cyhoeddiad neithiwr yn cyfeirio yn benodol at y cytundeb cydweithredu, ac roedd y llinell ymateb a nododd y Prif Weinidog yn adlewyrchu'r cytundeb cydweithredu. Siawns nad yw hynny yn mynd yn groes i'ch penderfyniad ynghylch sut y dylid ymgymryd â chwestiynau yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog.
Diolch am godi'r pwynt o drefn, a diolch am ei awgrymu yn ystod y cwestiwn i dynnu fy sylw at y cwestiynau a oedd yn cael eu gofyn gan arweinydd Plaid Cymru. Rwy'n credu o fyfyrio eich bod chi'n gywir, a'i bod yn debyg ei fod wedi mynd y tu hwnt i'r canllawiau yr wyf i wedi eu cyhoeddi yn yr achos hwnnw. Fe'i cymeraf fel eithriad i'r rheol heddiw. Ni fyddaf yn disgwyl iddo gael ei ailadrodd eto, ond mae gan arweinydd Plaid Cymru yr hawl i ofyn cwestiynau craffu ar y Prif Weinidog nad yw'n arwain ato'n ymddangos fel pe bai'n llwyfan ar gyfer polisïau'r cytundeb cydweithredu hwnnw. Byddaf yn dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd heddiw a byddwn yn myfyrio ar hynny ar gyfer y dyfodol. Rwy'n amau y byddwn ni'n dychwelyd at y mater hwn droeon dros yr wythnosau nesaf, y misoedd nesaf, os nad y blynyddoedd nesaf—nid blynyddoedd, gobeithio, ar y pwynt hwnnw.
Cwestiwn 3, felly, Rhun ap Iorwerth.