Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 10 Mai 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd y dyfodol hwnnw yn golygu cynhyrchu o leiaf ddigon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn, gan gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru ar yr un pryd. Bydd mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â chamau i leihau'r galw am ynni, yn sicrhau mwy o gydnerthedd ynni ac yn cefnogi ein targedau sero-net.