Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 10 Mai 2022.
Llywydd, a gaf i ddiolch i chi am y cyfle i amlinellu cynlluniau ein fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol? Nawr, yn fy natganiad heddiw, byddaf yn amlinellu rôl a swyddogaeth y fframwaith canlyniadau, sut y mae'n cael ei ddatblygu ac yn trafod y camau nesaf arfaethedig.
Mae'r Dirprwy Weinidogion a minnau wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym yn glir bod cynlluniau a darpariaeth gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar wneud y pethau iawn yn dda ac ar yr angen i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd cenedlaethol.
Mae datblygu'r fframwaith canlyniadau yn cyflawni ein hymrwymiad yn 'Cymru Iachach' i ddatblygu fframwaith canlyniadau a rennir yn seiliedig ar y nod pedwarplyg, sef gwella iechyd a llesiant y boblogaeth; gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd gwell a haws eu defnyddio; iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch; a gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy. Mae'r fframwaith yn ategu'r fframwaith canlyniadau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw, sy'n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y fframwaith hwn, ynghyd â fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn parhau a bydd yn parhau i ddarparu pwyslais gwerthfawr er mwyn sicrhau gwell canlyniadau. Prif nod y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yw mesur effaith iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydweithio o safbwynt ein dinasyddion. Mae'n blaenoriaethu nifer bach o feysydd allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn gwella'r canlyniadau i holl boblogaeth Cymru.
Trwy fesur canlyniadau integredig, byddwn yn symud ein pwyslais o fesur yr hyn y mae'r system yn ei wneud i'r hyn y mae'n ei gyflawni i bobl. Bydd yn ein galluogi i ddangos effeithiolrwydd ein gweithredoedd ar y cyd ac yn ein helpu i ateb a ydym yn gwneud digon o'r pethau cywir yn dda. Mae'n gyfle i ddatblygu cynlluniau ac atebolrwydd ar y cyd, yn enwedig yng nghyd-destun gweithio rhanbarthol ac integredig. Gall ein ffyrdd presennol o weithio arwain at weithio tameidiog, sy'n gwneud synnwyr yng nghyd-destun sefydliadau unigol ond sy'n gwrthdaro â'i gilydd wrth edrych arnyn nhw o safbwynt y system gyfan.
Os edrychwn ar ein system gofal heb ei drefnu bresennol, mae'r atebion yn ehangach na pherfformiad ambiwlansys ac adrannau achosion brys. Fel y dangoswyd gan y chwe nod gofal brys ac argyfwng, mae angen i ni edrych ar draws y system gyfan, gan gynnwys gofal cymdeithasol, a llunio nodau a rennir a chamau gweithredu integredig. Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd, gan gefnogi unigolion i gadw'n iach, gan symud o system salwch i system iechyd da.
Mae'r fframwaith canlyniadau yn darparu'r cyd-destun strategol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Mae ei gyfres o ddangosyddion yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion yng Nghymru. Datblygwyd y fframwaith yn seiliedig ar dri gwerth craidd: atal, i gefnogi'r anghenion iechyd a ragwelir i atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael; cydraddoldeb, gwella bywydau pawb—ceir system deg sy'n sicrhau canlyniadau iechyd cyfartal i bawb drwy gau'r bylchau cydraddoldeb yng Nghymru; cyfrifoldeb unigol, cefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, gan alluogi pobl i fod yn gadarn ac yn annibynnol am fwy o amser yn eu cartrefi a'u hardaloedd eu hunain—mae hyn yn cynnwys cyflymu adferiad ar ôl triniaeth a gofal, a chefnogi camau hunanreoli cyflyrau hirdymor.
Trwy gyfres o weithdai a sesiynau grŵp, rydym wedi datblygu'r agwedd lefel poblogaeth ar y fframwaith canlyniadau. Mae'n nodi'r canlyniad a ddymunir ar gyfer y boblogaeth, wedi'i ategu gan gyfres fach o ddangosyddion i fesur cyflawniad.