– Senedd Cymru am 3:00 pm ar 10 Mai 2022.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog iechyd wneud ei datganiad ar eitem 5?
Y datganiad hwnnw yw'r datganiad ar y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Eluned Morgan, felly.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am siarad yn araf iawn.
Llywydd, a gaf i ddiolch i chi am y cyfle i amlinellu cynlluniau ein fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol? Nawr, yn fy natganiad heddiw, byddaf yn amlinellu rôl a swyddogaeth y fframwaith canlyniadau, sut y mae'n cael ei ddatblygu ac yn trafod y camau nesaf arfaethedig.
Mae'r Dirprwy Weinidogion a minnau wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym yn glir bod cynlluniau a darpariaeth gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar wneud y pethau iawn yn dda ac ar yr angen i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd cenedlaethol.
Mae datblygu'r fframwaith canlyniadau yn cyflawni ein hymrwymiad yn 'Cymru Iachach' i ddatblygu fframwaith canlyniadau a rennir yn seiliedig ar y nod pedwarplyg, sef gwella iechyd a llesiant y boblogaeth; gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd gwell a haws eu defnyddio; iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch; a gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy. Mae'r fframwaith yn ategu'r fframwaith canlyniadau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw, sy'n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y fframwaith hwn, ynghyd â fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn parhau a bydd yn parhau i ddarparu pwyslais gwerthfawr er mwyn sicrhau gwell canlyniadau. Prif nod y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yw mesur effaith iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydweithio o safbwynt ein dinasyddion. Mae'n blaenoriaethu nifer bach o feysydd allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn gwella'r canlyniadau i holl boblogaeth Cymru.
Trwy fesur canlyniadau integredig, byddwn yn symud ein pwyslais o fesur yr hyn y mae'r system yn ei wneud i'r hyn y mae'n ei gyflawni i bobl. Bydd yn ein galluogi i ddangos effeithiolrwydd ein gweithredoedd ar y cyd ac yn ein helpu i ateb a ydym yn gwneud digon o'r pethau cywir yn dda. Mae'n gyfle i ddatblygu cynlluniau ac atebolrwydd ar y cyd, yn enwedig yng nghyd-destun gweithio rhanbarthol ac integredig. Gall ein ffyrdd presennol o weithio arwain at weithio tameidiog, sy'n gwneud synnwyr yng nghyd-destun sefydliadau unigol ond sy'n gwrthdaro â'i gilydd wrth edrych arnyn nhw o safbwynt y system gyfan.
Os edrychwn ar ein system gofal heb ei drefnu bresennol, mae'r atebion yn ehangach na pherfformiad ambiwlansys ac adrannau achosion brys. Fel y dangoswyd gan y chwe nod gofal brys ac argyfwng, mae angen i ni edrych ar draws y system gyfan, gan gynnwys gofal cymdeithasol, a llunio nodau a rennir a chamau gweithredu integredig. Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd, gan gefnogi unigolion i gadw'n iach, gan symud o system salwch i system iechyd da.
Mae'r fframwaith canlyniadau yn darparu'r cyd-destun strategol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Mae ei gyfres o ddangosyddion yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion yng Nghymru. Datblygwyd y fframwaith yn seiliedig ar dri gwerth craidd: atal, i gefnogi'r anghenion iechyd a ragwelir i atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael; cydraddoldeb, gwella bywydau pawb—ceir system deg sy'n sicrhau canlyniadau iechyd cyfartal i bawb drwy gau'r bylchau cydraddoldeb yng Nghymru; cyfrifoldeb unigol, cefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, gan alluogi pobl i fod yn gadarn ac yn annibynnol am fwy o amser yn eu cartrefi a'u hardaloedd eu hunain—mae hyn yn cynnwys cyflymu adferiad ar ôl triniaeth a gofal, a chefnogi camau hunanreoli cyflyrau hirdymor.
Trwy gyfres o weithdai a sesiynau grŵp, rydym wedi datblygu'r agwedd lefel poblogaeth ar y fframwaith canlyniadau. Mae'n nodi'r canlyniad a ddymunir ar gyfer y boblogaeth, wedi'i ategu gan gyfres fach o ddangosyddion i fesur cyflawniad.
Mae'r canlyniad cyffredinol sydd wedi ei ddewis ar gyfer y fframwaith yn seiliedig ar y weledigaeth yn 'Cymru Iachach', sef pawb yng Nghymru yn mwynhau iechyd a llesiant da. Caiff hwn ei ategu gan 13 o gynigion ar gyfer dangosyddion poblogaeth a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i ddangos bod y canlyniad wedi'i gyflawni. Mae pump o'r 13 a fydd yn cael eu trafod gyda'r sector yn ddangosyddion llesiant cenedlaethol sy'n cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Ac mae gan ddau ddangosydd arall gysylltiad agos gyda'r dangosyddion llesiant cenedlaethol.
Er bod pob un o'r dangosyddion arfaethedig wedi'u dewis oherwydd eu perthnasedd i iechyd a gofal cymdeithasol a'u gallu i ddylanwadu, mae'n bwysig cydnabod bod partneriaid eraill yn hanfodol i droi cornel neu wella llwybr y dangosydd dan sylw. Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys helpu pobl sy'n unig a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Y cam datblygu nesaf fydd creu camau gweithredu integredig ar gyfer pob un o'r dangosyddion. Drwy wneud hyn, gallwn nodi beth mae angen i ni ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf. Unwaith y cytunir ar y camau gweithredu, byddant yn cael eu defnyddio i ddatblygu mesurau perfformiad. Bydd y mesurau perfformiad yn cael eu defnyddio i ddal sefydliadau i gyfrif am eu rolau perthnasol wrth gyflawni yn erbyn y dangosyddion poblogaeth.
Mae bellach yn bryd rhannu'r gwaith yn ehangach a chyd-gynhyrchu'r manylion y tu ôl i bob dangosydd gyda'n partneriaid. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r camau gweithredu mwyaf effeithiol i wella'r cyflawni ac i wneud gwahaniaeth i unigolion a chymunedau. Dros yr haf byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i brofi'r dangosyddion a gyflwynwyd er mwyn nodi'r camau cywir y mae angen i ni eu cymryd.
Er bod y rhain yn ddangosyddion ar gyfer y boblogaeth gyfan, rŷn ni'n gwybod o'r gwaith cychwynnol a'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 fod yr effeithiau'n wahanol i grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. Rŷn ni wedi ymrwymo'n gryf i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb, felly bydd y gwaith ymgysylltu gyda rhanddeiliaid yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau poblogaeth allweddol, megis plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl o gefndir du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, a phobl ag anableddau dysgu. Ar gyfer pob dangosydd, defnyddir set safonol o alluogwyr, a fydd yn ystyried agweddau allweddol, megis yr iaith Gymraeg, ansawdd a gwerth, y gweithlu a thrawsnewid digidol.
Bydd fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref i gefnogi fframwaith cynllunio NHS Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol terfynol yn cael ei ddefnyddio i roi adroddiad cynnydd i'r Senedd ar sut mae 'Cymru Iachach' yn gwneud gwahaniaeth. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch am y datganiad heddiw, Minister.
A nawr y datganiad cynamserol, ac rwy'n falch fy mod o gwmpas fy mhethau y prynhawn yma. Ac rwy'n croesawu'r newid pwyslais o reoli systemau tuag at sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai hynny sy'n dibynnu ar ein systemau iechyd a gofal, sef pob un ohonom ni, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y fframwaith hwn yn helpu i symud pwyslais tuag at well canlyniadau i ddinasyddion Cymru ac, ar yr un pryd, yn helpu i integreiddio iechyd a gofal a dileu'r rhwystrau artiffisial rhag gofal y caniatawyd iddyn nhw dyfu. Dylai canolbwyntio ar fywydau ein dinasyddion fod yn brif flaenoriaeth i ni bob amser ond, yn anffodus, mae Llywodraethau ar bob lefel yn rhy aml yn colli golwg ar y ffaith honno.
Gweinidog, rwy'n sylweddoli nad dyma ddiwedd y broses wrth ddatblygu'r fframwaith hwn, ond ychydig iawn o fanylion sydd ar gael am sut y bydd y fframwaith yn gweithredu. Felly, pryd byddwn ni'n gallu gweld manylion y dangosyddion canlyniadau, a pha ran, os o gwbl, y bydd gwahanol egwyddorion hawliau'r Cenhedloedd Unedig yn ei chwarae wrth ysgogi'r newid i ddull sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy'n seiliedig ar ganlyniadau?
Gweinidog, er fy mod i'n croesawu'r pwyslais sy'n cael ei roi ar sicrhau bod hyn yn trawstorri iechyd a gofal, rwyf yn cwestiynu pam yr ydych wedi dewis rhedeg y fframwaith hwn ochr yn ochr â'r fframwaith ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw eu hunain. Onid ydych chi'n cytuno y byddai cael un fframwaith integredig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n trawstorri iechyd a gofal yn ddewis gwell? Ac yn yr un modd, pam y mae angen fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd arnom hefyd, neu'r llu o fframweithiau eraill sydd gennym? Fy ofn i yw, drwy ddyblygu cyfrifoldebau ar draws y fframweithiau lluosog, na welwn y newid pwyslais tuag at ganlyniadau. Onid ydym yn ychwanegu at y dulliau systemau y buom yn ceisio symud oddi wrthyn nhw i ddechrau?
Mae gen i bryderon hefyd ynghylch sut y byddwn yn mesur cynnydd o'i gymharu â'r nodau a'r dangosyddion a fydd yn ffurfio'r fframwaith terfynol. Felly, Gweinidog, sut caiff cynnydd ar hyn ei fonitro a pha offerynnau fyddwn ni'n eu defnyddio mewn gwirionedd i fonitro'r cynnydd hwn? A fyddwch chi'n dibynnu unwaith eto ar arolwg cenedlaethol i Gymru, ac ydych chi'n credu bod dibynnu ar rywbeth nad yw'n ddim mwy na phôl piniwn yn ffordd ddigonol o asesu gwelliannau i'r modd y darperir iechyd a gofal? Ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio gwelliannau technolegol i gasglu ystod ehangach o safbwyntiau a monitro canlyniadau drwy gydol y flwyddyn?
Yn olaf, Gweinidog, rwy'n sylwi y byddwch chi'n ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid dros yr haf, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n cynnwys y rhanddeiliaid pwysicaf, sef dinasyddion Cymru, yn wir. Edrychaf ymlaen at weld y fframwaith yn fanylach a gweithio gyda chi i ddarparu system gofal wirioneddol integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Diolch.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch ein bod ni ar yr un dudalen o ran hyn. Felly, rwy'n awyddus iawn i roi'r gorau i fod mewn sefyllfa lle rydym yn edrych yn gyson ar faint o arian yr ydym yn ei roi i'r system. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ddechrau ei fesur yw'r hyn sy'n dod allan y pen arall. Pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i'r cyhoedd ac i gleifion? Ac os gallwn ni wneud hynny mewn ffordd effeithlon ac effeithiol, gan fesur yr hyn sy'n bwysig i bobl—dyna'r peth arall. Mae'n bwysig iawn nad yw'n ymwneud â cheisio sicrhau bod pobl yn—ein bod ni'n gwella pobl, ond yn colli diben eu bywydau mewn gwirionedd.
Dyna sy'n sylfaenol yn 'Cymru Iachach' mewn gwirionedd. Mae'n ceisio yn wirioneddol i greu system sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar yr hyn sy'n bwysig i bobl. Gallaf eich sicrhau chi mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yma yw osgoi dyblygu. Nawr, mae llawer o bethau yn digwydd yma, ond dyma'r math o fframwaith ymbarél y bydd rhai o'r pethau eraill yn cael eu mesur oddi tano. Felly, mae gennym ni ddeddfwriaeth eisoes, er enghraifft, yn y Ddeddf gofal cymdeithasol y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â hi, ond a fydd yn dod o dan yr ymbarél hon bellach, yn yr ystyr y bydd angen i ni wybod ble maen nhw'n cwrdd. Felly, mae cyfrifoldebau ar ofal cymdeithasol, er enghraifft, i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain, ond ni ellir datgysylltu hynny oddi wrth y ffaith bod pobl, mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, yn sownd yn yr ysbyty, nid ydyn nhw'n gallu mynd allan o gartrefi—rydym yn mynd i edrych ar integreiddio'r system yn ei chyfanrwydd. Adrannau damweiniau ac achosion brys—mae problem yn y fan yna.
Felly, mae dod â hyn i gyd at ei gilydd a sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldeb yn mynd i fod yn hanfodol, a gallaf eich sicrhau chi y bydd llawer o wahanol ffyrdd o fonitro. Felly, un o'r pethau yr wyf wedi bod yn ei wneud heddiw yw mynd drwy'r cynlluniau tymor canolig integredig ym mhob un o'r byrddau iechyd yn fanwl iawn. Nid wyf i'n credu eu bod nhw wedi gweld unrhyw un yn mynd trwyddyn nhw â chrib fân yn y ffordd yr wyf i'n mynd trwyddyn nhw ar hyn o bryd. Ac mae hyn dim ond yn edrych ar: beth sydd yn eich rhaglen chi? Beth sydd ar goll o'ch rhaglen chi? Rwy'n mynd i fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn sydd ar goll o'r rhaglenni hynny, ond byddaf i hefyd yn ceisio sicrhau bod gennym ni'r pwyslais yn y lle iawn. Ar ben hynny, bydd llythyr y cadeirydd—y llythyr y byddaf yn ei anfon at y cadeirydd, a byddaf yn dwyn cadeiryddion i gyfrif ar sail hynny. Ac yn amlwg mae gennym ni dargedau hefyd, y byddwn yn eu monitro, ac rwy'n siŵr, fel pwyllgor, y byddwch chi'n dymuno eu monitro hefyd. Gallaf eich sicrhau chi na fyddwn yn cymryd ein hadroddiadau o arolwg Cymru yn unig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni fynd ychydig yn bellach o dan y boned, ac rwy'n gwbl benderfynol ein bod yn mesur cynnydd. Ond mae hyn yn ymwneud ag atal. Mae llawer ohono'n ymwneud ag atal ac, yn y gorffennol, nid wyf i'n credu—. Gan fod atal yn rhaglen tymor hwy, nid ydym wedi ei fesur yn yr un ffordd. Rwy'n gwbl benderfynol o geisio cyrraedd man lle'r ydym yn mesur gwaith atal fel ein bod yn gweld y newid yn y pwyslais yn ein holl wasanaethau tuag at hynny.
Diolch, Weinidog, am y datganiad yma. Dwi ddim yn anghytuno efo'r cynnwys—efo cynnwys y geiriau—a dydw i ddim yn anghytuno efo'r nod yn fan hyn. Pwy fyddai'n anghytuno efo'r nod o drio creu cenedl fwy iach? Beth sy'n fy mhoeni i braidd ydy y gallwn ni gael ein clymu yn fan hyn yn siarad mwy eto am beth rydyn ni'n trio ei gyflawni ond dydyn ni ddim yn gweld y camau cadarn hynny sydd yn mynd â ni gam wrth gam, yn brasgamu tuag at y nod. Mae'r Gweinidog yn hollol iawn i ddweud:
'Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd'.
Mae hynny mor, mor wir, ond dydw i ddim yn gweld yr arwyddion o'r math o chwildro y buaswn i'n licio ei weld. Dwi'n cofio, ar ôl datganiad diweddar, gwnes i gyhuddo'r Gweinidog o fod wedi colli nought oddi ar ddiwedd rhyw ffigur oedd yn cael ei wario ar fesurau ataliol, a dwi'n ei feddwl o. Hynny ydy, mae'n rhaid inni anelu yn y pen draw at allu gwario llai ar ofal iechyd, a'r ffordd o gyrraedd y nod honno ydy ein bod ni'n genedl iachach oherwydd bod yna symiau rhyfeddol o fawr wedi cael eu gwario ar yr ataliol ym mhob ffurff, ond hefyd bod yna newid meddwl am y fath o gyfundrefn iechyd a gofal a llesiant rydyn ni'n chwilio amdani hi. Felly, ie, does yna ddim anghytuno ynglŷn â phwysigrwydd yr ataliol.
Does yna ddim anghytuno gen i ynglŷn â'r ail o'r tair egwyddor: cyfartaledd rhwng pobl. Mae hynny'n hollol, hollol allweddol. A dwi'n meddwl, mewn cyfres o ymyriadau yn ddiweddar, mae Plaid Cymru wedi bod yn pwysleisio'r modd mae anghydraddoldebau wedi bod yn gwaethygu, nid yn gwella, yma yng Nghymru. A'r drydedd egwyddor yna—rhoi'r gallu i'r unigolyn i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud y penderfyniadau iawn—wrth gwrs mae honno'n bwysig, ond mae yna gymaint o bobl sy'n methu â gwneud y penderfyniadau iawn oherwydd yr amgylchiadau maen nhw wedi canfod eu hunain ynddyn nhw, oherwydd bod anghydraddoldebau yn eu cloi nhw mewn cylch dieflig, os liciwch chi. Felly, mae eisiau adnabod lle mae'r blockage. Mae angen gallu adnabod beth sy'n atal y Llywodraeth go iawn rhag gallu gweithredu mewn ffordd integredig a dod â'r holl elfennau o lywodraethiant—tai, iechyd, addysg, cymdeithas, economi, y cyfan— at ei gilydd, a dydy'r ateb i hynny ddim mewn fframwaith o'r math yma, er bod yr amcanion yna. Felly, yr un cwestiwn: ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi ei bod hi'n amhosib gwella'r allbynau heb gael gwared ar yr anghydraddoldebau sy'n ein dal ni nôl fel cenedl a chymdeithas ar hyn o bryd?
Diolch yn fawr. Wel, i ateb y cwestiwn olaf, 'Ydy hi'n amhosibl gweld gwahaniaeth yn yr allbynau?', wel, na, dyna pam mae gwneud rhywbeth ynglŷn ag anghydraddoldeb yn rhan allweddol o beth rydyn ni'n ei mesur fan hyn. Dwi'n awyddus iawn i beidio â jest siarad fan hyn; dwi'n glir iawn mai beth sydd ei angen yw pethau rydyn ni'n gallu eu mesur, a dwi'n benderfynol i sicrhau bod hynny'n bosibl yn y maes atal, yn ogystal â chlirio'r rhestrau aros. Mae hi mor hawdd i gyfrif faint o hip operations sydd angen eu gwneud. Mae'n lot mwy anodd i ddweud, 'Reit, rŷm ni'n mynd i weld llai o blant yn mynd i'r ysgol yn ordew.' Ond dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar hynny, a dwi'n meddwl bydd yna bwysau arnom ni i ganolbwyntio bron â bod yn llwyr ar glirio'r rhestrau aros yma, ond dwi'n meddwl byddai hwnna'n gamgymeriad, achos os nad ydym, fe fydd y system jest yn llenwi lan eto. Ac felly, dyna pam, i fi, mae'n hollbwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar y mesurau ataliol yma ar yr un pryd â chlirio'r rhestrau aros yna.
A jest ynglŷn â'r cyfrifoldeb ar yr unigolyn, dwi'n meddwl bod hwn—. Mae'n swnio'n dda, ond, actually, rŷm ni wedi treulio dwy flynedd yn dweud wrth unigolion yn union beth i'w wneud, yn union ble i fynd, yn union pryd i adael eu tŷ nhw, yn union pwy i gwrdd â nhw, sut i gwrdd â nhw. Felly, mae'r sifft yna yn mynd i fod yn eithaf anodd, achos rŷm ni wedi bod yn eithaf paternalistic dros y ddwy flynedd diwethaf. Nawr, mae angen i ni gael pobl i gymryd y cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n mynd i'w gadael nhw ar ben eu hunain i wneud hynny. Rŷm ni'n cydnabod bod rhai pobl yn gallu gwneud hynny yn well nag eraill, ond dwi yn meddwl bod pethau newydd gyda ni i'n helpu ni gyda hwnna. Dwi'n meddwl bod mesurau digidol, er enghraifft, lle rŷm ni'n gallu helpu pobl i helpu eu hunain hefyd, a does dim rheswm pam na allwn ni ddefnyddio mesurau newydd modern i'n helpu ni gyda mynd i'r afael â rhai o'r problemau yma.
Diolch i'r Gweinidog.