Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 10 Mai 2022.
Mae'r canlyniad cyffredinol sydd wedi ei ddewis ar gyfer y fframwaith yn seiliedig ar y weledigaeth yn 'Cymru Iachach', sef pawb yng Nghymru yn mwynhau iechyd a llesiant da. Caiff hwn ei ategu gan 13 o gynigion ar gyfer dangosyddion poblogaeth a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i ddangos bod y canlyniad wedi'i gyflawni. Mae pump o'r 13 a fydd yn cael eu trafod gyda'r sector yn ddangosyddion llesiant cenedlaethol sy'n cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Ac mae gan ddau ddangosydd arall gysylltiad agos gyda'r dangosyddion llesiant cenedlaethol.
Er bod pob un o'r dangosyddion arfaethedig wedi'u dewis oherwydd eu perthnasedd i iechyd a gofal cymdeithasol a'u gallu i ddylanwadu, mae'n bwysig cydnabod bod partneriaid eraill yn hanfodol i droi cornel neu wella llwybr y dangosydd dan sylw. Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys helpu pobl sy'n unig a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Y cam datblygu nesaf fydd creu camau gweithredu integredig ar gyfer pob un o'r dangosyddion. Drwy wneud hyn, gallwn nodi beth mae angen i ni ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf. Unwaith y cytunir ar y camau gweithredu, byddant yn cael eu defnyddio i ddatblygu mesurau perfformiad. Bydd y mesurau perfformiad yn cael eu defnyddio i ddal sefydliadau i gyfrif am eu rolau perthnasol wrth gyflawni yn erbyn y dangosyddion poblogaeth.
Mae bellach yn bryd rhannu'r gwaith yn ehangach a chyd-gynhyrchu'r manylion y tu ôl i bob dangosydd gyda'n partneriaid. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r camau gweithredu mwyaf effeithiol i wella'r cyflawni ac i wneud gwahaniaeth i unigolion a chymunedau. Dros yr haf byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i brofi'r dangosyddion a gyflwynwyd er mwyn nodi'r camau cywir y mae angen i ni eu cymryd.
Er bod y rhain yn ddangosyddion ar gyfer y boblogaeth gyfan, rŷn ni'n gwybod o'r gwaith cychwynnol a'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 fod yr effeithiau'n wahanol i grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. Rŷn ni wedi ymrwymo'n gryf i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb, felly bydd y gwaith ymgysylltu gyda rhanddeiliaid yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau poblogaeth allweddol, megis plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl o gefndir du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, a phobl ag anableddau dysgu. Ar gyfer pob dangosydd, defnyddir set safonol o alluogwyr, a fydd yn ystyried agweddau allweddol, megis yr iaith Gymraeg, ansawdd a gwerth, y gweithlu a thrawsnewid digidol.
Bydd fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref i gefnogi fframwaith cynllunio NHS Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol terfynol yn cael ei ddefnyddio i roi adroddiad cynnydd i'r Senedd ar sut mae 'Cymru Iachach' yn gwneud gwahaniaeth. Diolch, Dirprwy Lywydd.