Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 10 Mai 2022.
Diolch. Ar ran Llywodraeth Cymru, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod â rhan yng ngweithrediad didrafferth etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru'r wythnos diwethaf, a phob unigolyn a safodd i gynrychioli ei gymuned. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr etholiadau hefyd a sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen yn ein perthynas ni â'r awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf.
Y rhain oedd yr etholiadau llywodraeth leol cyntaf ers i ni ymestyn y fasnachfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a rhai cymwys o wledydd tramor, gan roi cyfle iddyn nhw fod â rhan mewn democratiaeth a bywyd dinesig yng Nghymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein huchelgais ni ar gyfer etholiadau sy'n fwy hygyrch. Fe wnaethom ni gefnogi cynlluniau treialu hefyd ar gyfer pleidleisio hyblyg yn etholiadau'r wythnos diwethaf, a gynhaliwyd mewn pedwar awdurdod lleol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pedwar awdurdod a ddaeth i'r adwy a chytuno i weithio gyda ni ar y cynlluniau treialu hyn: Blaenau Gwent, Caerffili, Tor-faen a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn wedi bod yn bod yn batrwm o gynhyrchu gyda'n gilydd. Er mai'r awdurdodau oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r cynlluniau treialu, fe'u cefnogwyd nhw gan y gymuned etholiadol gyfan wrth gynllunio'r modelau treialu a chynllunio ar gyfer cyflawni. Fe geir arwyddion cynnar sy'n awgrymu bod y rhain wedi gweithio yn dda, ac rydym ni'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf. Fe fydd hwnnw'n helpu ni i nodi'r mannau lle gallwn ni leihau mwy o'r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn etholiadau. Mae lleihau'r oedran ar gyfer pleidleisio ac ymestyn yr etholfraint i bawb sy'n byw yng Nghymru yn datgan yn eglur ein bod ni'n Llywodraeth sy'n cefnogi ac yn annog amrywiaeth yn ein democratiaeth leol. Mae amrywiaeth ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i sicrhau bod barn ac anghenion pawb yn cael eu lleisio, ac yn cyfoethogi penderfyniadau lleol.
Roedd cynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol yn un o themâu craidd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd darpariaethau gan gynnwys rhannu swyddi ar gyfer aelodau gweithredol a chynorthwywyr yn dod i rym ar gyfer y gweinyddiaethau llywodraeth leol newydd. Rydym ni eisoes wedi gweithredu'r ddarpariaeth barhaol yn Neddf 2021 sy'n galluogi prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned i gyfarfod o bell, sy'n cefnogi aelodau sydd mewn cyflogaeth amser llawn, sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sy'n ei chael hi'n anodd teithio. Ac mae'r darpariaethau hyn wedi cael eu defnyddio a'u croesawu yn eang.
Am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol yng Nghymru, fe wnaethom ni agor mynediad at gronfa sefyll mewn etholiad i gefnogi ymgeiswyr anabl. Rwy'n falch iawn o ddweud bod tua 20 o ymgeiswyr wedi cael cymorth drwy'r gronfa hon. Rydym ni'n archwilio erbyn hyn sut y gallwn ymestyn y gronfa i gefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Rydym ni wedi cymryd camau hefyd i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr ac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn wedi cael croeso eang ar gyfer sicrhau bod ymgeiswyr, aelodau a'u teuluoedd yn cael rhywfaint o amddiffyniad rhag y cam-drin ofnadwy sydd, yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin.
Rydym ni wedi gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd a manteision bod yn gynghorydd lleol ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda nhw. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a rhoi gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr. Dyma enghraifft arall o'r ffordd yr ydym ni wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac mae hyn yn tystiolaethu i'r berthynas waith gref a chadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Yn ystod pandemig COVID-19, ac yn fwy diweddar fel cenedl noddfa wrth ymateb i'r digwyddiadau ofnadwy yn Wcráin, rydym ni wedi gweld pwysigrwydd y berthynas honno ar waith, a chadernid drwy ddatblygu atebion ar y cyd.
Rwyf i wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y berthynas hon, a pharhau i weithio gyda'n gilydd i wynebu heriau'r dyfodol er mwyn pobl Cymru. Yn tystio i'r bartneriaeth hon, mae'r cynghorau sydd newydd eu hethol yma'n troi at eu dyletswyddau newydd gyda chefnogaeth oddi wrth y setliad llywodraeth leol mwyaf grymus a fu ers blynyddoedd lawer. Gan ein bod ni wedi dewis blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yng nghyllideb Cymru, fe ddarparwyd £5.1 biliwn i awdurdodau lleol eleni mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i ddarparu gwasanaethau allweddol—cynnydd o 9.4 y cant. Rydym ni hefyd yn darparu dros £1 biliwn mewn grantiau refeniw penodol a bron i £0.75 biliwn o bunnau mewn cyllid cyfalaf penodol.
Fe wn i fod risgiau ac effeithiau chwyddiant ac economi sy'n arafu yn golygu bod yr heriau yn parhau i'n cynghorau ni, ond fe allan nhw ymateb i'r heriau hynny gyda sylfaen ariannol sy'n fwy cadarn, a mwy o sicrwydd o gyllideb tair blynedd ddangosol, a chefnogaeth Llywodraeth sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn benodol. Rwy'n edrych ymlaen at siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol CLlLC ar 24 Mehefin a chynhadledd CLlLC ym mis Medi i drafod ein blaenoriaethau ar y cyd ni ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Diolch.