Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 10 Mai 2022.
A gaf i ymddiheuro am fod ychydig funudau yn hwyr yn cyrraedd? Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod trefn agenda'r prynhawn yma wedi cael ei newid. Ymddiheuriadau, Gweinidog.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, hefyd, am gyflwyno datganiad adeiladol heddiw ynglŷn â'r etholiadau llywodraeth leol, a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf? Fe hoffwn innau ymuno â chi i ddiolch i bawb a fu â rhan yng ngweithrediad rhwydd etholiadau'r wythnos diwethaf, o'r swyddogion hynny a fu'n monitro hynny i'r rhai hynny a fu'n cyfrif yn y gorsafoedd cyfrif. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr heddiw wedi bod yn bresennol yn y cyfrifiadau hynny'r wythnos diwethaf ac fe gefais i argraff dda ar y broses etholiadol yn gyffredinol, gan weld gwaith ac ymroddiad eithriadol pawb a fu'n gwneud y broses yn llwyddiant mor fawr. Fe hoffwn i ymuno â'r gweinidog i ddiolch i bob un hefyd a fu'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y rhai, wrth gwrs, a fu'n ddigon ffodus i gael mandad i gynrychioli cymunedau lleol, a hefyd, y rhai a safodd ond heb fod yn llwyddiannus, yn anffodus. Mae hi'n bwysig iawn bod amrywiaeth o bobl gennym ni'n sefyll mewn etholiad er mwyn cael democratiaeth sy'n weithredol, ac, wrth gwrs, ymgeiswyr yn ddigon dewr i leisio barn, rhywbeth nad yw'n hawdd ei wneud bob amser.
Fel gwnaethoch chi amlinellu yn eich datganiad chi, Gweinidog, yn etholiad yr wythnos diwethaf, fe welsom ni gynlluniau treialu ar gyfer pleidlais hyblyg yn digwydd mewn pedair ardal awdurdod, ac, fel yr ydych chi'n dweud, fe geir argoel fod hynny wedi gweithio yn dda. Eto i gyd, ar gyfer etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy'n deall mai dim ond tua 180 o bobl a fanteisiodd ar yr etholiadau cynnar hynny mewn 68 o wardiau. Os yw hynny'n gywir, fe fyddai'n dangos mai dim ond tri o bobl fesul ward a fanteisiodd ar hyn. I ddechrau, yn fy marn i, nid yw hi'n ymddangos bod hynny'n cynnig gwerth da am arian o ran y buddsoddiad angenrheidiol i'w weithredu. Ac fel yr ydych chi'n dweud, rydych chi'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf yn hyn o beth, ond tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o ddealltwriaeth i ni heddiw ynglŷn â sut yr aeth y cynlluniau treialu hyn ac a ydych chi'n rhagweld y gellir eu defnyddio nhw mewn etholiadau i'r cynghorau yn y dyfodol.
Yn ail, Gweinidog, yn eich datganiad chi roeddech chi'n sôn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr nac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu o ran diogelu'r ymgeiswyr a'r cynghorwyr, ac mae hwn yn faes y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr yn flaenorol. Yn ogystal â hynny, rwy'n croesawu eich gwaith parhaus chi gyda CLlLC i hyrwyddo urddas a manteision bod yn gynghorydd lleol. Serch hynny, fe welsom ni 74 o seddi heb ymgeiswyr yn etholiadau'r wythnos diwethaf, sy'n dangos bod pobl yn poeni o hyd am gyflwyno eu hunain i'w hethol oherwydd weithiau, a dweud y gwir, mae gwawdio a bwlio yn wynebu ymgeiswyr mewn etholiadau. Felly, tybed pa gamau penodol yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd i leihau gwawdio a bwlio fel hyn a sut ydych chi am weithio gyda'r ombwdsmon i sicrhau bod eu pwerau nhw'n ddigonol i fynd i'r afael â'r mater hwn hefyd.
Ac yn olaf, Gweinidog, rhywbeth na wnaethoch chi ei godi yn eich datganiad chi heddiw yw'r niferoedd a fu'n pleidleisio yn etholiadau'r wythnos diwethaf. Fel y gwyddom ni, mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn dal i fod yn isel iawn mewn etholiadau cyngor. Fe ellid priodoli rhywfaint o hynny i bobl nad ydyn nhw'n deall, efallai, holl swyddogaethau cynghorau a chynghorwyr yn narpariaeth ein gwasanaethau hanfodol ni. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi o'r niferoedd a bleidleisiodd yn yr etholiadau a pha gamau yr ydych chi o'r farn y gellir eu cymryd i ganiatáu i fwy o'n dinasyddion ni yng Nghymru fod â rhan yn yr etholiadau pwysig iawn hyn yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.