Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Mai 2022.
Prynhawn da, Weinidog. Mae’n ffaith sy'n peri pryder fod llawer o bractisau deintyddol wedi'i chael hi'n anodd dychwelyd i normalrwydd wrth inni gefnu ar y pandemig. Nid yw archwiliadau arferol yn cael eu cynnig. Mae pobl yn gyndyn o drafferthu eu deintyddion am apwyntiadau gan eu bod yn teimlo efallai na fyddai archwiliad yn cael ei ystyried yn ddigon pwysig. Ac mae llawer o bobl yn methu cael mynediad at wasanaethau digonol y tu allan i oriau ar gyfer cyngor ac apwyntiadau brys. Fodd bynnag, mae archwiliad yn hanfodol i'r claf: mae modd nodi problemau'n gynharach ac mae deintydd yn gymwys i roi cyngor ar gwestiynau ehangach ynghylch iechyd y geg. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain ynglŷn â chapasiti ein gwasanaethau deintyddol, a pha gynlluniau sydd ganddi i sicrhau bod gennym y nifer cywir o ddeintyddion yn gweithio yng Nghymru? Diolch.