1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau deintyddiaeth GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ58013
Diolch yn fawr. Rŷn ni'n gweithio ar ddiwygio’r system ddeintyddiaeth ac yn symud ymlaen ar y cyd gyda'r rhaglen ddiwygio gofal sylfaenol yn 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda’r proffesiwn deintyddol i wella mynediad at ofal deintyddol, gwella'r profiad a gwella ansawdd y gofal.
Diolch, Weinidog. Mae adroddiad newydd cyngor iechyd cymuned bae Abertawe, 'Cael Mynediad at Ofal Deintyddol y GIG: Mynd at Wreiddyn y Broblem', yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n pwysleisio bod y materion hyn yn bodoli cyn i'r pandemig eu gwaethygu. Mae cleifion wedi gorfod aros am flynyddoedd i weld deintydd, a llawer heb lwyddo i gael apwyntiad o gwbl. Canfu’r adroddiad fod 70 y cant o bobl yn teimlo o dan bwysau i geisio gofal deintyddol preifat er mwyn cael apwyntiad. Ni allant gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, gan gynnwys menywod beichiog a phlant. Ac mae apwyntiadau hanfodol yn cael eu gwrthod i gleifion â phroblemau meddygol difrifol sydd angen archwiliadau rheolaidd. Dywedodd un claf: 'Syrthiodd fy mhont ddeintyddol allan ar ddechrau 2020, rwyf hebddi o hyd. Mae'n effeithio ar fy hyder. Ni allaf wenu. Ni allaf chwerthin.' Mewn achos arall, bu'n rhaid i ddyn dynnu ei ddant ei hun o'i geg, a gwyddom fod achosion o hyn wedi'u cofnodi. A chlywais adroddiadau tebyg gan gannoedd o fy etholwyr mewn ymateb i arolwg a gynhaliais. Dywedodd un claf wrthyf hefyd ei fod wedi cael ei ddatgofrestru’n awtomatig gan nad oedd deintydd wedi’i weld ers dwy flynedd, er ei fod wedi bod ar y rhestr warchod am y rhan fwyaf o’r ddwy flynedd hynny. Felly, rwy'n croesawu cynllun y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar i wella gofal deintyddol, ond hoffwn wybod sut y bydd diwygio’r contract yn mynd i’r afael yn ddigonol ac ar fyrder â’r holl bryderon a adlewyrchir yn yr adroddiad, sy’n codi ledled Cymru, ac sydd wedi’u codi gan lawer o Aelodau yn y Siambr hon. A oes cyllid digonol i gynyddu capasiti'r GIG i ddod â’r loteri cod post anghyfiawn hon i ben, a sicrhau bod y rheini na allant fforddio talu, neu na allant ddod o hyd i ddeintydd GIG, yn cael y gofal y mae ganddynt hawl iddo?
Diolch yn fawr, Sioned. Ac fe fyddwch yn ymwybodol y bu problem benodol mewn perthynas â deintyddiaeth oherwydd yr angen am fesurau rheoli heintiau i sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel, gan gynnwys cleifion a deintyddion eu hunain. A dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiad o 50 y cant yn nifer y bobl sydd wedi gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i geisio lliniaru hyn, wrth gwrs, gan gynnwys buddsoddiad sylweddol i helpu deintyddion i sicrhau gwell llif aer yn eu deintyddfeydd.
Rwy’n siŵr y byddwch yn falch o glywed, oherwydd y contract deintyddol newydd a gyflwynwyd gennym, fod 88 y cant o bractisau ym mwrdd iechyd bae Abertawe wedi optio i mewn i’r system newydd honno. Felly, rydym yn gobeithio gweld trawsnewidiad yn awr oherwydd y ffordd y caiff yr unedau deintyddol hynny eu cyfrif. Felly, arferent gael eu cyfrif fel unedau deintyddol. Bellach, byddwn yn symud ymhellach i faes atal, a bydd rhan o'r contract hefyd yn ymwneud â gofyn i bobl newydd a sicrhau eu bod yn cael gweld pobl newydd mewn deintyddiaeth.
Rydym wedi darparu cronfa ychwanegol o gyllid rheolaidd—£2 filiwn. Fel y gwyddoch, yr hyn na allwn ei wneud yw creu deintyddion newydd dros nos. A dyna pam mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau ein bod yn hyfforddi hylenwyr a therapyddion, a gallaf eich sicrhau bod oddeutu 20,000 o bobl yn cael eu gweld bob wythnos yng Nghymru.
Prynhawn da, Weinidog. Mae’n ffaith sy'n peri pryder fod llawer o bractisau deintyddol wedi'i chael hi'n anodd dychwelyd i normalrwydd wrth inni gefnu ar y pandemig. Nid yw archwiliadau arferol yn cael eu cynnig. Mae pobl yn gyndyn o drafferthu eu deintyddion am apwyntiadau gan eu bod yn teimlo efallai na fyddai archwiliad yn cael ei ystyried yn ddigon pwysig. Ac mae llawer o bobl yn methu cael mynediad at wasanaethau digonol y tu allan i oriau ar gyfer cyngor ac apwyntiadau brys. Fodd bynnag, mae archwiliad yn hanfodol i'r claf: mae modd nodi problemau'n gynharach ac mae deintydd yn gymwys i roi cyngor ar gwestiynau ehangach ynghylch iechyd y geg. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain ynglŷn â chapasiti ein gwasanaethau deintyddol, a pha gynlluniau sydd ganddi i sicrhau bod gennym y nifer cywir o ddeintyddion yn gweithio yng Nghymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Altaf, a hoffwn eich sicrhau, os oes angen triniaeth ddeintyddol ar frys neu os yw’r claf mewn poen, disgwylir y bydd gan fyrddau iechyd ddarpariaeth ar waith i ddarparu gofal yn gyflym. Ac un o'r pethau rwy'n eu gwneud ar hyn o bryd yw mynd drwy fanylion y cynlluniau tymor canolig integredig ar gyfer pob un o'r byrddau iechyd a sicrhau bod gan bob un ohonynt gynnig a chynllun digonol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau mewn perthynas â deintyddiaeth.
Fe fyddwch yn falch o glywed, rwy’n siŵr, ein bod wedi penodi prif swyddog deintyddol newydd yn ddiweddar. Rwy’n ymwybodol iawn fod hwn yn fater sy’n peri pryder i lawer o’r cyhoedd yng Nghymru, ac rwyf bellach wedi gofyn am gyfarfodydd misol i sicrhau ein bod yn cyflymu'r system. Cawsom gyfnod o amser pan nad oedd gennym brif swyddog deintyddol yng Nghymru, ac felly rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi penodi rhywun ac y bydd y ffocws hwnnw, gobeithio, yn cael ei roi ar y system.
Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle gallai offer sy'n cynhyrchu aerosol achosi heintiau, ac felly mae’n rhaid inni ddeall bod cyfyngiadau ar waith o hyd mewn deintyddiaeth nad ydynt efallai yn union yr un fath ag yng nghyfleusterau eraill y GIG.