Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 11 Mai 2022

Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mi oedd y nyrs yma yn sicr yn poeni am lefelau staffio yn gyffredinol, ac yn amlwg y gor-ddibyniaeth ar staff asiantaeth. Mi ddywedwyd wrthyf i bod y rhan fwyaf o'r nyrsys ddaeth o Sbaen ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl ymgyrch recriwtio, wedi dychwelyd i Sbaen erbyn hyn. Mae yna dyllau mawr yn y gweithlu. Mi fydd y Gweinidog, dwi'n gwybod, wedi cael copi o'r adroddiad diweddar yma gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar y lefelau staffio. Dau o'r argymhellion yn hwnnw: (1) bod angen strategaeth recriwtio nyrsys rhyngwladol, sydd yn ategu beth roedd y nyrs yma yn ei ddweud; a hefyd bod angen datblygu strategaeth cadw staff, ac mae'n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth. Ond, at yr argymhelliad cyntaf dwi'n troi efo cwestiwn syml: mae'r coleg brenhinol yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, yn ystod y tymor seneddol yma, ymestyn adran 25B o'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i nyrsio cymunedol a wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl. Mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn bod hynny'n ofyniad sydd wedi cael ei glywed dro ar ôl tro; rydyn ni'n gwybod bod lefelau staffio rhy isel yn peryglu lles cleifion. A gawn ni'r ymrwymiad yna gan y Gweinidog heddiw?