Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed hynny. Yn amlwg, mae hynny'n codi pryder. Mi wnes i gwrdd ag aelodau undeb yn y gogledd yn ddiweddar—aelodau o'r RCN ac aelodau o Unison—a doedd hwn ddim yn rhywbeth gwnaethon nhw godi gyda fi. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna ffyrdd eraill iddyn nhw godi pryderon fel hyn. Dwi yn meddwl ei fod yn bwysig bod pob un yn gallu bod yn agored. Os nad ydyn ni'n gallu bod yn agored, allwn ni ddim gwella'r sefyllfa. Yn sicr, dwi'n barod i siarad gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud fel eu bod nhw yn teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy hyderus ynglŷn â chodi materion fel hynny. Rydyn ni yn gwneud lot, fel rydych chi'n ymwybodol, i drio recriwtio nyrsys, ac wedi gweld 76 y cant o gynnydd yn nifer y nyrsys rydyn ni'n eu hyfforddi. Ond does dim iws gwneud hynny os ydyn ni'n colli pobl ar ochr arall y system. Felly, yn sicr, mi wnaf i godi'r mater yma gyda'r cadeirydd.