Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch yn fawr. Wel, roeddem yn falch iawn ein bod wedi cyflwyno lefel ddiogel o staff nyrsio yng Nghymru—y cyntaf yn y DU i wneud hynny—ac rydym yn falch iawn fod hynny'n cael ei asesu a'i ystyried ar hyn o bryd. Yn amlwg felly, rydym yn edrych i weld beth arall y mae angen inni ei wneud ynglŷn â hyn. Nawr, rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac maent yn codi hyn yn rheolaidd; mae bob amser ar frig eu hagenda. Mae'n fwy cymhleth sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni o fewn y gymuned, oherwydd sut rydych chi'n asesu hynny? Nid yw cymuned yr un peth â ward, felly mae pethau gwahanol iawn i'w mesur. Mae'n sefyllfa lawer mwy cymhleth ar gyfer asesu beth fyddai'n lefel ddiogel o staff nyrsio. Felly, rydym wrthi'n cynnal trafodaethau pellach drwy'r amser ar y mater hwn, ond mae'n llawer mwy cymhleth na'r hyn ydoedd, o'i gymharu â'i gyflwyno mewn sefyllfa ysbyty.