Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 11 Mai 2022.
Weinidog iechyd, yn amlwg, un o'r pethau allweddol am gymorth cymunedol gan y proffesiwn iechyd yw cael niferoedd cywir o staff o'r ansawdd cywir yn y gymuned. Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yfory, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac un o'r mesurau a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru flaenorol oedd cyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 sy'n benodol ar gyfer lleoliadau wardiau ysbytai. A ydych yn ystyried cefnogi ymestyn y Ddeddf honno i'r gymuned, fel y gallwn fod yn hyderus, gyda'r materion a godwyd gan yr Aelod dros y Rhondda, fod gan staff cymorth cymunedol, a nyrsys yn arbennig, ddigon o adnoddau a'u bod yn eu lle i gynghori teuluoedd pan fyddant yn wynebu'r sefyllfaoedd tyngedfennol hyn pan gaiff baban newydd ei eni i'r teulu?