Llawdriniaeth Ddewisol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 1:54, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Mae mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Fis diwethaf, lansiais y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio, sy’n nodi ein dull o leihau amseroedd aros yng Nghymru fel bod cleifion yn cael y gofal a’r driniaeth y maent yn eu haeddu, ac mae hynny wedi’i ategu gan fuddsoddiad rheolaidd ychwanegol o £170 miliwn.