Mynediad at Wasanaethau Meddygon Teulu

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:14, 11 Mai 2022

Diolch yn fawr, Weinidog. Nawr, wythnos diwethaf, fe gadarnhawyd cynlluniau i droi meddygfa Corporation Road yn Grangetown i fod yn dai annedd, heblaw bod modd ffeindio meddyg i gymryd y practis yno drosodd. Gyda chau'r feddygfa yna ac eraill, mae dros 1,200 o bobl ychwanegol wedi ymuno â'r feddygfa yn Ninas Powys. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i hyfforddi'r gweithlu iechyd yng Nghymru, ond yn ôl y BMA, bydd hwnna dim ond yn cynnal y nifer 160 newydd bob blwyddyn ac nid y 200 ychwanegol bob blwyddyn sydd eu hangen i ddiwallu yr anghenion ar hyn o bryd. Felly sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynyddu y nifer o feddygon teulu yng Nghymru? Diolch yn fawr.