Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
Ar wahân i agor ysgol feddygol yn y gogledd, a oedd yn rhan o'n maniffesto ni, un o'r pethau rŷn ni'n ei wneud yw sicrhau bod yna bosibilrwydd i bobl sydd efallai yn dod o dramor i hyfforddi yma i gario ymlaen i weithio. Tan nawr, mae yna broblem wedi bod o ran cael certificate of completion training, ac felly beth roedden ni'n gofidio oedd y bydden ni'n gweld, yn ystod y tair blynedd nesaf, 174 o bobl sydd i fod i orffen eu hyfforddiant oedd efallai ar gael i ni, ond eu bod nhw ddim yn cael caniatâd i aros, ac mae proses eithaf hirfaith i fynd drwyddo o ran cael fisa ac ati. Ond rŷn ni'n mynd ati nawr i helpu'r meddygon teulu yma, i helpu recriwtio'r bobl yma, ac mi fyddwn ni'n rhoi system mewn lle i sicrhau eu bod nhw'n cael yr help i fynd drwy’r broses yna o gael fisa yn rhwydd.