Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch, Llywydd. Mae'n Ddiwrnod y Nyrsys yfory, a dwi eisiau diolch i nyrsys ymhob cwr o Gymru am eu gofal a'u hymroddiad. Ond dwi am dynnu sylw'r Gweinidog at bryderon sydd wedi eu codi efo fi gan nyrs, sy'n dweud ei bod hi'n cynrychioli nifer sylweddol o staff nyrsio Ysbyty Gwynedd. Mi gefais fy nhristau o wrando ar y nyrs yn disgrifio'r awyrgylch gwaith, yn disgrifio bwlio, y pwysau ac oriau gwaith afresymol, gorfodaeth i weithio'n gyson dros oriau arferol, perthynas wael efo matrons ac uwch reolwyr; mae morâl yn isel meddan nhw, niferoedd uchel yn gadael—allan o 20 nyrs wedi'u hyfforddi'n llawn mewn un adran, mi ddywedwyd wrthyf i bod pump wedi gadael yn y tri mis diwethaf. Un pryder penodol oedd bod nyrsys yn cael eu symud yn gyson o'r adrannau maen nhw wedi arbenigo ynddyn nhw i adrannau eraill, a hynny'n rhoi straen ar nyrsys, sydd ofn gwneud camgymeriadau, ac maen nhw'n bryderus bod hyn yn groes i ganllawiau'r NMC. Pam eu bod nhw'n symud? Oherwydd bod nyrsys asiantaeth yn gwrthod symud. Mae yna'n amlwg ormod o ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth. Weinidog, mi ysgrifennaf i atoch chi am hyn, ac at y bwrdd iechyd. Pam dwi'n codi hyn yn fan hyn yn y lle cyntaf? Wel, er mwyn trio rhoi hyder i'r nyrsys y bydd eu pryderon nhw'n cael eu cymryd o ddifrif. Does ganddyn nhw ddim hyder yn y broses whistleblowing. Allaf i gael sicrwydd, felly, y bydd y Gweinidog yn dilyn yn fanwl y ffordd y bydd y bwrdd iechyd yn ymateb i'r pryderon yma?