Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Mai 2022.
Mae camau i dargedu negeseuon iechyd cyhoeddus cryf at gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi'u hymgorffori yn ein gwaith atal ar gyfer iechyd y cyhoedd, i helpu pobl i gynnal pwysau iach, rhoi'r gorau i ysmygu, a chefnogi eu lles meddyliol. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd y gwyddom fod y cymunedau hyn yn eu profi.