Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch am hynny, Weinidog. Yn ystod y pandemig, rwy'n credu iddi ddod yn fwyfwy amlwg fod anghydraddoldebau iechyd sylweddol iawn yn ein cymunedau lleiafrifol ethnig. Roedd problemau gyda chyfleu negeseuon mewn perthynas â chyfraddau brechu a llu o amodau economaidd a chymdeithasol. A diolch byth, Weinidog, camodd Muslim Doctors Cymru i'r adwy—ac roedd un o fy etholwyr, Dr Kasim Ramzan, yn rhan o hynny—i helpu i gyfleu negeseuon mewn ieithoedd cymunedol, i godi ymwybyddiaeth, i gynnal clinigau brechu mewn mosgiau, i gynnal cyfarfodydd Zoom, i gysylltu gweithwyr proffesiynol perthnasol â'i gilydd. Fe wnaethant lawer iawn o waith, Weinidog, fel y gwn eich bod yn gwybod. Gan ein bod bellach, gobeithio, yn cefnu ar y pandemig, hoffwn gael sicrwydd gennych y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda Muslim Doctors Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd parhaus yn ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, oherwydd mae llawer o waith i'w wneud o hyd.