1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
6. Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan y Llywodraeth i fyrddau iechyd i'w galluogi i roddi presgripsiynu cymdeithasol ar waith? OQ58008
Rydym yn datblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi gweithredu lleol i gynyddu'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad y mis nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog, a dwi'n falch o'ch clywed yn cyfeirio at y fframwaith, sydd wrth gwrs yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Dwi'n siŵr gall nifer ohonom ni gyfeirio at brosiectau rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sydd yn dangos gwerth presgripsiynu cymdeithasol o ran iechyd a lles pobl rydym yn eu cynrychioli, ac nid dim ond y rhai sy'n teimlo'n ynysig, fel y cyfeirir ati yn y rhaglen lywodraethu. Ond yn amlwg, nid dim ond byrddau iechyd sydd yn rhan o'r gwaith hwn. Mae gan sefydliadau megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Theatr Clwyd ac ati, brosiectau a phartneriaethau gwych yn y maes hwn. Ac felly, gaf i holi, wrth ichi ddatblygu'r fframwaith yma, pa mor ganolog fydd y cyrff tu hwnt i'r sector iechyd, megis rhai diwylliannol, o ran gwireddu llawn botensial presgripsiynu cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Heledd. Fel y nodwyd gennych, mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd dda iawn o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol wedi ei leoli yn y gymuned, ac mae angen i hynny fod yn ddull cyfannol sy'n cydnabod bod ystod o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn dylanwadu ar iechyd pobl, ac fel y nodwyd gennych, nid yw hynny'n ymwneud yn unig â mynd i'r afael ag unigrwydd. Felly, fel rhan o'r fframwaith yr ydym yn ei ddatblygu, ein bwriad yw nodi beth fyddai'n fodel derbyniol o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, ond ni fyddwn yn pennu sut y caiff ei ddarparu mewn gwahanol gymunedau. Ac mae'r gweithgor gorchwyl a gorffen ar bresgripsiynu cymdeithasol a gadeirir gennyf yn gweithio gyda gofal sylfaenol, byrddau iechyd, y trydydd sector, ynghyd â sectorau diwylliannol a chwaraeon, rwy'n falch o ddweud, i ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol hwnnw, a bydd yn cynnwys model y cytunwyd arno o bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer Cymru ac yn nodi sawl thema graidd lle y gallwn ni yn Llywodraeth Cymru a'n partneriaid roi camau ar waith i gefnogi'r broses o'i weithredu. Ond i fod yn glir iawn, nid wyf yn credu y dylai'r fframwaith bennu sut beth fyddai hynny mewn gwahanol gymunedau, oherwydd mae pob cymuned yn wahanol, a bydd yn ystyried anghenion ac yn manteisio ar gryfderau cymunedau penodol, ond gan sicrhau bod gennym gynnig da yn gyson ledled Cymru.