2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddenu buddsoddiad economaidd sylweddol i Gasnewydd? OQ58016
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OQ58000
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n deall, Lywydd, eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 ac 8 gael eu grwpio.
Mae'r fframwaith economaidd rhanbarthol drafft yn tynnu sylw at sut y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn parhau i ddenu buddsoddiad mawr i ardal Casnewydd. Yn ogystal, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chyngor Casnewydd a'r prifddinas-ranbarth i ddarparu'r seilwaith a'r cymorth i fusnesau er mwyn datblygu economi Casnewydd ymhellach.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae dinas Casnewydd wedi bod yn galw am fewnfuddsoddiad yn awr ers llawer gormod o amser. Yn anffodus, o dan flynyddoedd o gamreoli gan Lafur, maent wedi llywodraethu dros gyfnod o ddiffyg twf yn yr ardal. Dim ond yn awr, gyda'r gronfa ffyniant gyffredin, y gronfa perchnogaeth gymunedol, ac eraill, y mae lleoedd fel Casnewydd yn cael cyfle teg. Boed yn borthladd rhydd neu'n ailddatblygu morglawdd afon Casnewydd, mae llu o syniadau newydd, a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Geidwadwyr Casnewydd, yn aros i gael eu datblygu a'u gwireddu er mwyn denu buddsoddiad economaidd i Gasnewydd a chreu'r swyddi llewyrchus hynny y mae'r bobl yn ein dinas, a'r Aelod o Gasnewydd draw yno, yn galw'n daer amdanynt. Ac maent wedi bod yn galw'n daer amdano ers blynyddoedd. [Torri ar draws.] Os gall yr Aelod eistedd yno a dweud bod gan ddinas Casnewydd y buddsoddiad y mae ei angen, fod canol y ddinas yn ffynnu, fod swyddi niferus i bawb yn y ddinas, byddwn yn croesawu ei glywed, oherwydd nid yw hynny'n wir. Byddai hynny'n gelwyddog. Mae'r ddinas yn galw'n daer am fewnfuddsoddiad, ac unrhyw fath o fuddsoddiad. Mae'n aml yn ddinas sy'n cael ei hanwybyddu. Rydych yn canolbwyntio ar Gaerdydd, rydych yn canolbwyntio ar Abertawe, ond mae Casnewydd bob amser ar ei cholled. Weinidog, beth rydych chi'n ei wneud i edrych ar ôl pobl Casnewydd ac i sicrhau bod Casnewydd yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arni?
Mae gennyf berthynas dda ac adeiladol iawn gydag arweinydd cyngor Casnewydd, Jane Mudd, sydd newydd ei hail-ethol, ac a arweiniodd dîm Llafur Cymru i fuddugoliaeth gyda chefnogaeth pobl Casnewydd. Ac yn wir, fe wnaethant wrthod amryw o'r awgrymiadau diddorol ond cwbl anghyraeddadwy a heb eu hariannu ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, gan gynnwys y morglawdd wrth gwrs, a oedd yn gynnig flynyddoedd lawer yn ôl, ac a wrthodwyd gan weinyddiaeth Geidwadol y DU ar y pryd.
Rwy'n credu bod gwir angen i'r Ceidwadwyr Cymreig feddwl yn hir ac yn galed cyn iddynt ddathlu'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae'n ostyngiad o fwy nag £1 biliwn yn y cyllid i Gymru. Mae'n syfrdanol eich bod yn parhau i ddod i'r lle hwn a honni y dylai fod yn achos dathlu. Rydym wedi colli £1 biliwn mewn achos syml o dorri addewid maniffesto. Ac rwy'n credu bod mynnu ein bod yn gwneud iawn am danseilio bwriadol y gronfa honno a'r hyn y gallai hynny ei wneud i economi nid yn unig Casnewydd ond ardaloedd ehangach o Gymru yn siarad cyfrolau ynghylch lle mae'r Torïaid yn sefyll. Ar y llaw arall, ceir lefel o uchelgais ac adnewyddiad dan arweiniad cyngor Casnewydd, mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y rhanbarth, a Llywodraeth Cymru yn wir.
O ran buddsoddiad mawr, wrth gwrs, mae'n wybodaeth gyhoeddus fod Microsoft yn buddsoddi yng Nghasnewydd. Mae gennym obeithion mawr am fuddsoddiad a chynnydd pellach gyda'r clwstwr lled-ddargludyddion, sy'n unigryw nid yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, ond ar lefel fyd-eang. Rwy'n credu bod y rhagolygon ar gyfer Casnewydd yn dda, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau etholedig yng Nghasnewydd, gan gynnwys y Cynghorydd Jane Mudd wrth gwrs.
Cwestiwn—. Jayne Bryant, mae'n ddrwg gen i. Cwestiwn—. Na, dim cwestiwn. Jayne Bryant. Ffocws, Elin. Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Yng Nghasnewydd, rydym newydd weld prosiect adfywio marchnad dan do mwyaf Ewrop dan arweiniad Simon Baston o LoftCo, marchnad dan do sy'n adeilad rhestredig gradd II a agorodd gyntaf yn 1854, ac sydd, unwaith eto, yn ffynnu ar ei newydd wedd. Ochr yn ochr â datblygiadau eraill yng nghanol y ddinas, megis y gwesty Mercure newydd yn Nhŵr y Siartwyr, sydd i fod i agor yn fuan iawn, hen swyddfa ddidoli'r Post Brenhinol, arcêd y farchnad, a chanolfan hamdden newydd ar y ffordd, mae llawer i edrych ymlaen ato. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau cyffrous a arweinir gan gyngor Llafur—cyngor Llafur sy'n deall nad dibynnu ar fanwerthu'n unig yw'r unig ffordd ymlaen mwyach, a chyngor Llafur sydd newydd gael ei ailethol yn unfrydol. Mae Casnewydd yn falch o'n cynnig diwylliant, celfyddyd a chwaraeon cyfoethog, ac fe wnaeth digwyddiadau fel arddangosfa oriel Ffoto ddydd Sadwrn, gyda'r ffotograffydd enwog David Hurn, helpu i ddod â phobl i ganol ein dinas. Gallaf sicrhau'r holl Aelodau, fel rhywun a oedd yng nghanol y ddinas, gallwn weld ei bod yn ffynnu. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu a chefnogi'r cynlluniau presennol i adfywio canol dinas Casnewydd, a sut y gallwn fanteisio ar y budd economaidd drwy wella cynnig diwylliannol a hanesyddol unigryw Casnewydd?
Rwyf wedi ymweld ag amryw o'r prosiectau y mae Jayne Bryant wedi sôn amdanynt. Yn wir, ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn gyda'r Cynghorydd Mudd a Jayne Bryant yn y farchnad dan do, ac mae'n gynnig newydd gwych—yn llawn iawn gyda mwy i ddod. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr Aelod yn agor ei swyddfa ei hun yn rhan o'r datblygiad hwnnw hefyd. Credaf fod rhesymau da dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â dyfodol Casnewydd, nid yn unig y sîn gerddoriaeth y gwnaethom ymweld â hi ac a gafodd ei chynorthwyo gennym i oroesi drwy'r pandemig, ond yn amlwg, ceir sîn cyfryngau creadigol gadarnhaol iawn o amgylch Casnewydd hefyd. Wrth gwrs, un o sêr Sex Education fydd y Doctor Who newydd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn dod yn ddoctor newydd.
Ond rhagor am Gasnewydd. Rwy'n credu bod gennym lawer o gynlluniau. Rwy'n meddwl am yr arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i mewn o gwmpas y bont gludo a chanolfan ymwelwyr newydd, rwy'n meddwl am yr ymrwymiad a'r bartneriaeth gyda'r cyngor ar ddatblygiadau gwestai newydd, a gwaith pellach i ddatblygu ac adfywio canol y ddinas. Mae'r cyngor yn cydnabod yr her. Un o'r cryfderau sydd gan Gasnewydd yn fy marn i yw ei hamgylchedd adeiledig a llawer o hanes o amgylch hynny, er mwyn rhoi teimlad unigryw o sut olwg fydd ar ganol dinas Casnewydd yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod a chyngor Casnewydd i gyflawni hynny.