2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
2. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi undebau credyd? OQ58023
Diolch ichi am y cwestiwn. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, cyfrifoldeb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bennaf yw undebau credyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £0.5 miliwn y flwyddyn mewn undebau credyd. Yn ystod y pandemig, darparwyd £2 filiwn o gyllid cyfalaf gennym i sicrhau y gallai undebau credyd barhau i gefnogi'r rhai sy'n fregus yn ariannol. Ers mis Rhagfyr y llynedd, rydym wedi darparu £680,000 ychwanegol i helpu gyda marchnata, ehangu aelodaeth a chynyddu benthyca.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Fel Aelod sydd wedi'i ethol dros y Blaid Gydweithredol, roeddwn i'n meddwl y buasai gennych ddiddordeb penodol yn y maes undebau credyd. Ond, mae yna bwrpas economaidd i'r cwestiwn hefyd. Mae gan undebau credyd botensial aruthrol, wrth gwrs, i wyrdroi economi Cymru. Eisoes, mae ganddyn nhw bron i 80,000 o aelodau yma yng Nghymru, gan fenthyg allan £23 miliwn y flwyddyn. Ond dydy hyn ddim yn agos i gymharu ag Iwerddon, ble mae 61 y cant o boblogaeth y wlad honno yn aelodau o undebau credyd. O ganlyniad, yn Iwerddon, maen nhw'n medru defnyddio grym yr undebau credyd i symbylu'r economi. Yno, mae cynghrair yr undebau credyd wedi cyfrannu biliynau o ewros i helpu'r Llywodraeth adeiladu miloedd o dai, gan sicrhau swyddi yn y diwydiant am chwe mlynedd. Ydych chi, felly, yn gweld bod gan yr undebau credyd yma rôl i'w chwarae wrth symbylu ein heconomi ni? A pha gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n chwarae rhan mwy canolog wrth ddatblygu economi Cymru?
Dylwn ddweud fy mod yn aelod o Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro fy hun, yn ogystal â bod yn Aelod balch o Lafur Cymru a'r Blaid Gydweithredol. Rwyf wedi bod â chyfrifoldeb gweinidogol dros undebau credyd o'r blaen, ac maent yn darparu mynediad ychwanegol at wasanaethau ariannol i unigolion a theuluoedd bregus, ond yn fwy na hynny, maent hefyd yn darparu cyfleusterau i fusnesau. Maent yn rhan o'r seilwaith sydd gennym, ond nid yw wedi'i ddatblygu na'i ymgorffori cystal ag yn Iwerddon, lle maent yn rhan brif ffrwd o wasanaethau ariannol arferol. Yn y rhan fwyaf o drefi, gallwch ddisgwyl dod o hyd i undebau credyd gyda swyddfeydd a chyfleusterau ledled y Weriniaeth, sefyllfa rwy'n gyfarwydd iawn â hi drwy ochr arall fy nheulu.
Serch hynny, rwy'n credu mai rhan o'n her yw sut yr awn ati i barhau i gefnogi undebau credyd gyda'r bwriad o helpu i ddarparu gwasanaethau ariannol i bobl sy'n aml wedi'u heithrio o fancio traddodiadol, ochr yn ochr â'r hyn a wnawn yn creu banc cymunedol newydd i sicrhau bod llinellau credyd hyfyw ar gael at ddefnydd unigolion, cymunedau a busnesau. Dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo iddo, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y gwaith a wnawn i gyflawni hynny.